Help / Cymorth

Archifau Awst 2011

Arian yn rheoli popeth

Glyn Griffiths|11:23, Dydd Mercher, 31 Awst 2011

Sylwadau (0)

Wythnos olaf y ffenestr drosglwyddo, gydag arian yn llifo fel pe na bai yfory yn bod.

Ond dyna arwydd o'r amser - gydag arian yn rheoli popeth yn y byd peldroed.

Mae gwaith ymchwil wedi ei gynnal sydd wedi dod i'r canlyniad, yn ôl tystiolaeth gadarn, mai'r timau cyfoethocaf sydd yn ennill bron popeth. Hwyrach fod hynny'n dweud yr amlwg, ond os felly, gellir mwy neu lai darogan enillwyr cystadlaethau cyn i'r tymor hyd yn oed ddechrau!

Ond mae ochor arall i ddatblygiad y gêm yn sgil ei chyfoeth ariannol.

Daeth hyn yn hollol amlwg mewn cyfweliad rhwng y cyfryngau a Michel Platini, llywydd UEFA'r wythnos diwethaf.

Mae Platini o'r farn fod y gêm yn colli ei ffordd (mynd yn 'pear shaped' oedd ei eiriau), a bod rhybuddion golau côch ymhob man yn dangos y peryglon y dylid ymateb iddynt.

Hyn oherwydd, yn ôl barn y Ffrancwr, fod llygredd yn brysur drwyddo'r gêm.

Mae yn poeni am yr honiadau fod canlyniadau gemau yn cael eu trefnu o flaen llaw, gan amlaf yng nghyd-destun hapchwarae (neu fetio ar gemau) gan ddefnyddio'r clwb o Dwrci, Fenerbache, fel esiampl. Tynnodd cymdeithas Beldroed Twrci'r tîm allan o gystadleuaeth Cynghrair Pencampwyr Ewrop yr wythnos diwethaf ar ôl scandal trefnu canlyniadau gemau yn gysylltiedig â chynghrair Twrci, a hefyd fe gyfeiriodd at streiciau chwaraewyr yn yr Eidal a Sbaen oherwydd methiant y clybiau i'w talu.

Aeth ymlaen i gymharu'r perygl rhwng methu a chynllunio yn ariannol, a methu a thalu chwaraewyr, a'r posibilrwydd o rywun gynnig sŵn enfawr am golli gem yn bwrpasol. Mae Platini o'r farn y byddai hyn yn gallu sicrhau arian i'r chwaraewyr hynny sydd ddim yn derbyn cyflog oherwydd trafferthion ariannol eu clybiau. Hwyrach y dylwn nodi yma hefyd, ei bod yn debyg fod y cyflog maent eisoes wedi ei dderbyn yn llawer mwy na welir y rhan fwyaf ohonon ni dros amser maith!

Mae Platini o'r fran fod rhaid gwireddu cynllun ariannol i ddangos fod y clybiau'n gallu bod yn hunan cynhaliol mor fuan ag sydd bosibl, neu bydd dyfodol a thegwch y gêm fwy yn y fantol nag y mai ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn poeni am ddylanwad perchnogion o dramor ar y clybiau, ac ymddengys ei fod o'r farn fod y clybiau hynny sydd yn cael eu rhedeg gan aelodau o'r cefnogwyr yn dangos gwell trefn ac yn cario mwy o obaith am gynhaliaeth hir dymor. Cyfeiria at glwb Barcelona fel enghraifft o lwyddiant ond gellir hefyd gyfeirio tuag at glwb Shamrock Rovers o Ddulyn sydd wedi cyrraedd rowndiau grŵp Pencampwyr Ewrop. Caiff y clwb yma ei redeg yn gyfan gwbl gan eu cefnogwyr gan gael ei ddefnyddio o fewn Iwerddon fel esiampl dda o weinyddiaeth.

Hwyrach y gallai clwb Wrecsam ddilyn a dysgu oddi ar Shamrock Rovers, yn enwedig yn sgil y smonach weinyddol a gafodd ei ddatgelu yn ddiweddar yn sgil yr e-bost yn cyfeirio at gynlluniau annisgwyl ynglŷn â'r dyfodol!

Does dim amheuaeth fod peldroed ar groesffordd ariannol, does ond gobeithio y bydd y clybiau, y chwaraewyr a'u asiantwyr ynghyd a chyfarwyddwyr, gweinyddwyr a chefnogwyr yn dewis y llwybr cywir ar gyfer y dyfodol.

Pwrpas Cwpan Carling?

Glyn Griffiths|11:11, Dydd Iau, 25 Awst 2011

Sylwadau (0)

Oes yna unrhyw bwrpas I Gwpan Carling?

Dim o gwbl os ydi sylwadau rheolwr QPR, Neil Warnock i'w hystyried.

Ar ôl colli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Rochdale, cyhoeddodd Warnock ei fod yn falch o fod allan o'r gystadleuaeth.

Roedd y dyrfa o ddim ond saith mil a hanner yn awgrymu nad oedd llawer o bwys gan y cefnogwyr chwaith - neu a ydi nifer y dorf yn dystiolaeth fod timau'r Uwchgynghrair yn codi gormod ar fynediad i'w gemau. Hwyrach fod mynediad i gemau Cwpan Carling llawer rhatach, ond gyda nifer o'r clybiau yn codi pris mynediad o £40 a mwy, (Stoke, Aston Villa, Everton a Norwich, i enwi ond pedwar) does gan lawer o gefnogwyr mo'r arian i fynychu pob gem fel ag yn y gorffennol.

Ceir sylwadau tebyg gan reolwr Norwich a gollodd o bedair i ddim adre i MK Dons, gyda Paul Lambert yn dweud fod yna ormod o gemau i'w chwarae dros y tymor a bod angen newid timau yng Nghwpan Carling er mwyn gorffwys chwaraewyr. Collodd Abertawe hefyd, gyda thîm a newidiwyd yn sylweddol yn erbyn yr Amwythig, ond cwestiynu agwedd y chwaraewyr yn hytrach na gwerth y gystadleuaeh a wnaeth eu rheolwr, Brendan Rodgers.

Un cynnig sydd wedi ei gynnig yw cyfyngu Cwpan Carling yn bennaf i chwaraewyr sydd o dan 23 oed. Ceir awgrym hefyd y dylid chwarae'r gemau ar gae y tîm sydd isaf yn nhrefn y cynghreiriau gan y byddai cefnogwyr y timau llai yn fwy tebygol o fynd i weld eu tim lleol yn cystadlu yn erbyn un o fawrion yr Uwchgynghrair yn eu hardal. Roedd y dorf o wyth mil ar Faes St James yng Nghaerwysg (Exeter) - stadiwm sydd yn dal naw mil pan yn llawn - wrth iddynt wynebu Lerpwl y gallai hyn fod yn rhywbeth y dylid ei ystyried.

Yn ogystal a'r ddau awgrym uchod, ceir hefyd y syniad y gellir arbrofi gyda rheolau neu dechnoleg newydd - rhywbeth ymarferol mewn cystadleuaeth sydd ar hyn o bryd yn ymddangos fel un sydd yn cael ei ystyried yn gystadleuaeth anymarferol.

Tydi'r difaterwch at drefn Cwpan y Gynghrair heb ei gyfyngu i beldroed Loegr chwaith. Aeth Bangor i'r Seintiau Newydd y llynedd gyda thîm a gafodd ei newid yn sylweddol gan golli o naw gol i ddim, a hynny yng nghymal cyntaf y rownd gyn-derfynol.

Does dim llwybr i Ewrop drwy Gwpan Cynghrair Loosemores yng Ngymru, a gyda thimau yn gweld blaenoriaethau eraill o fewn Cwpan Cymru ac Uwchgynghrair Corbetts does dim llawer o bwysigrwydd yn cael ei roi i'r gystadleuaeth, er fod gwobr o £15,000 ar gael gyda £10,000 yn mynd i'r enillwyr. Hwyrach, fel ac yr awgrymir yn Lloegr, y gellir gwneud y gystadleuaeth yma un un a fyddai yn rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc ddatblygu ar lefel cenedlaethol, a mynnu fod rhaid cael lleiafrif o chwaraewyr o dan 23 oed yn y tîm ar unrhyw adeg.

Mae un peth yn weddol sicr - heb ymateb a heb newidiadau i'r drefn bresennol, mae'n anodd gweld sut y caiff cwpanau'r cynghreiriau (yn Lloegr ac yng Nghymru) gael eu hystyried fel cystadlaethau difrifol, gwerth eu hennill.

Mae trefn y gemau, dewisiadau chwaraewyr ar gyfer y gemau, agwedd y rheolwyr a maint y torfeydd yn dystiolaeth fod angen ystyried rhyw fath o newid.

Trais, trachwant a Wrecsam

Categorïau:

Glyn Griffiths|13:21, Dydd Mawrth, 16 Awst 2011

Sylwadau (0)

Roedd y croeso gafodd tîm Wrecsam gan dros bedair mil o gefnogwyr ar y Cae Ras cyn eu gem agoriadol o'r tymor yn erbyn Caergrawnt yn un o'r ysbeidiau mwyaf emosiynol a welwyd yno ers peth amser.

Ar ddiwedd wythnos a welodd terfysgoedd a thrais yn ninasoedd Lloegr, roedd un ddelwedd a gafodd ei gyflwyno yn y cyfryngau yn sefyll allan fel eicon o barch tuag at gymdeithas a chymuned.

Nid darlun o drais na thrachwant oedd hwn, ond llun o gefnogwyr ifanc , cefnogwyr clwb peldroed Wrecsam, ynghyd a'i rhieni, a fu'n cyfrannu'n ariannol tuag at sicrhau dyfodol eu clwb lleol.

Dengys y llun yma'r hyn mae llywodraeth Prydain yn ei alw amdano, sef parchu gwerthoedd o fewn cymdeithas, gyda rhieni yn gwybod yn union beth mae eu plant yn ei wneud ac yn cefnogi eu hymdrechion.

Hwyrach y dylai'r ddelwedd yma gael ei osod a'i arddangos yn gyhoeddus yng nghanol y dref neu'r Cae Ras, fel y gall pawb gofio cyfraniad trigolion Wrecsam i geisio sicrhau dyfodol i elfen bwysig a hanesyddol o fewn eu cymuned.

Daeth cefnogaeth i'r clwb o bob cyfeiriad yn ystod yr haf, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, o wledydd tramor, ac o'r pentrefi cyfagos a hyn i gyd yn cael ei gyd-gordio yn effeithiol gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr.

Mae nifer o glybiau erbyn heddiw yn derbyn cymorth sylweddol gan ymddiriedolaeth eu cefnogwyr, a hyn yn cynnwys Abertawe, yn ogystal â chlwb Dinas Chaerwysg (Exeter City) a Wimbledon.

Rhaid aros i weld os yw ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam yn llwyddo i brynu'r clwb, ond siawns fod yr amser pan mae cowbois dinasoedd di-drefn Lloegr, yn ceisio prynu'r clwb er mwyn eu trachwant hunanol, wedi ei gladdu yn y gorffennol.

Tydi pethau ddim yn syml, na chwaith yn hawdd yn Wrecsam y dyddiau yma.

Ond, mae un peth yn sicr, pan aeth pethau'n dywyll, fe safodd cefnogwyr Wrecsam ac aelodau o'r gymuned ehangach gyda'i gilydd yn y bwlch i geisio sicrhau gwawr newydd a fyddai'n cynnig dyfodol gwell ar y Cae Ras.

Cymru v Awstralia

Categorïau:

Glyn Griffiths|14:40, Dydd Iau, 11 Awst 2011

Sylwadau (0)

Wedi cwyno nad yw Cymru wedi gallu rhoi'r tîm cryfaf ar y cae mewn nifer o gemau, siomedig oedd y perfformiad, ar y cyfan, yn erbyn Awstralia - a hynny gyda thîm oedd yn cynnwys wyth aelod sydd yn chwarae yn gyson yn yr Uwchgynghrair.

Methodd Cymru a rhoi ei stamp ar y gêm yn yr hanner cyntaf, gyda gormod o basio diogel a chadw meddiant yn nodweddiadol o'r chwarae, ond hynny heb fawr o fygythiadau ymosodol effeithiol.

Oddi ar y bel, doedd yna fawr o frys i gyfyngu meddiant Awstralia o'r bel. Yn sgil hyn manteisiodd yr ymwelwyr ar y cyfle i osod eu stamp eu hunain ar y gêm gan wneud i lawer un o'm cwmpas yn y stadiwm fynd yn hollol rwystredig wrth wylio.

Tarodd Wilkshire, a oedd yn edrych yn fygythiol pob tro y cafodd y bel, y postyn, cyn iddo yn ddiweddarach groesi a gweld Tim Cahill yn troi'r bel ar y foli i gefn y rhwyd.
Hanner cyntaf siomedig felly, ond ymddengys fod Cymru wedi cael neges yn ystod yr egwyl i godi tempo eu chwarae, a hwyrach dod a mwy o bwrpas i'w pasio.

Llwyddwyd i wneud hynny, gyda mwy o angerdd ac awch yn ymddangos, a gyda chynhwysiant Jack Collison yng nghanol y cae, daeth pethau i edrych yn fwy ffafriol.
Ond gyda phrofiad Awstralia , sydd heb golli yn ei deg gem ddiwethaf, a hynny ers mis Ionawr, a dim ond wedi ildio dwy gol, roedd eu hamddiffyn yn sefyll yn gadarn yn erbyn atgyfodiad ysbeidiol Cymru.

Llwyddodd yr eilydd Robbie Kruse i ychwanegu ail gol i Awstralia a dangos fod yna dipyn o waith o flaen Cymru os am wella.

Ond, a hwyrach mai dyma'r llygedyn mwyaf o obaith, dangosodd Cymru ddygnwch a dyfalbarhad, gan ymosod yn fwy aml, a'r chwarae yn fwy pwrpasol. Cryfhawyd canol cae gyda chyfraniad Joe Allen yn hwyr yn y gêm - a chafwyd gôl haeddiannol, yn hwyr, pan beniodd Darcy Blake y bel i gefn rhwyd Mark Schwarzer.

Llygedyn o obaith hwyrach mewn gem siomedig, a bydd rhaid i Gary Speed ysytyried cyfraniad yr eilyddion, yn enwedig Collison ac Allen, cyn dod i benderfyniad ynglŷn â beth yn union ydi tîm gorau Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mae'r garfan wedi cael digon o gyfleoedd i aeddfedu ond ymddengys fod angen cyfuno'r garfan i greu tîm effeithiol gan efelychu'r hyn a welwyd yn chwarter awr olaf y gêm, dros gyfnodau hirach o fewn gemau yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, mae'r cennad John Toshack, sydd wedi gweld ei yrfa fel rheolwr yn ei arwain ar hyd a lled Sbaen a Thwrci, wedi cael yr alwad i ymuno fel rheolwr ar dîm rhyngwladol Macedonia.

Anodd ydi rhoi barn, heb fod yn rhagfarnllyd - heblaw hwyrach cyfeirio at y ffaith fod y proffwydi yn ymddangos fel petaent wedi dweud amdano cyn ei ddod!

Ie, trowch i'r Beibl ac i lyfr yr Actau, pennod 16 ; adnod 9, ac fe gewch:-

A gweledigaeth a ymddangosodd ... liw nos: rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddyfeisiai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni'!

Ie, roedd yr hen broffwydi yn ei deall hi'n iawn - a diolch i fy nghyfaill Idris Charles am dynnu fy sylw at y cennad yma i helpu Macedonia.

Be fedrai ddeud? Hwyrach fod peldroed Macedonia ynghanol crisis, os felly tybed beth fydd ymateb Toshack ?

Rhowch hell iddyn' nhw Tosh! Rhowch hell iddyn' nhw.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.