Hughes yn haeddu gwell gan Manchester City

Wythnos yn ôl, mi roeddwn ni'n trafod sefyllfa Mark Hughes yn Manchester City a'r ffaith fod rhai o'r cefnogwyr yno yn galw am "enw mawr" i gymryd ei le.
Wel maen nhw rŵan wedi cael eu ffordd. Wedi deunaw mis wrth y llyw, wedi arwain y tîm i'r chweched safle, gan golli dwy gêm yn unig yn y gynghrair y tymor hwn, ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol y Cwpan Carling, mae o wedi mynd.
A hynny wedi iddyn nhw guro Sunderland o 4-3 brynhawn Sadwrn.
Mae'n debyg mai'r hyn oedd wedi cyfrif yn ei erbyn oedd y ffaith i City ennill dwy gêm yn unig yn yr un ar ddeg diwethaf a chael cymaint o gemau cyfartal.
O'r ddwy gollwyd, cweir yn Tottenham a cholli yn anlwcus yn y funud olaf yn erbyn Manchester United, wel yn y pumed munud o amser am anafiadau a dweud y gwir.
I mi mae o'n anhygoel. Pe bai unrhyw un yn asesu record Hughes fel rheolwr yna mi fyddan nhw'n gweld ei fod o yn dilyn yr athroniaeth bod angen cropian cyn cerdded.
Wedi etifeddu tîm Bobby Gould fel rheolwr ar Gymru, aeth ati i greu tîm oedd yn anodd ei guro cyn iddyn nhw ddechrau ennill gemau yn erbyn gwledydd fel Yr Eidal a'r Almaen a chyrraedd gemau ail-gyfle Pencampwriaethau Ewrop 2004.
Yr un oedd yr athroniaeth yn Blackburn; tîm cadarn, disgybledig anodd ei guro yn datblygu yn un o dimau mwyaf cyson yr Uwch Gynghrair ac yn sicr o orffen yn y deg uchaf.
Dwi'n gwybod pan gymerodd Mark yr awenau yn Eastlands ei fod o'n meddwl fod ganddo amser i newid pethau i City - clwb gyda llaw sydd heb ennill fawr ddim o werth ers canol y saithdegau.
Roedd o am ddod a sefydlogrwydd i'r clwb, adeiladu sylfaen gadarn cyn mynd ati i ennill tlysau. Ac mi roedd o'n ddigon hyderus yn ei allu ei hun i wneud hynny.
Roedd ganddo gefnogaeth a thîm ffyddlon o'i gwmpas, ymysg y goreuon a dweud y gwir. Eddie Niedzwecki, Mark Bowen, Glyn Hodges a Kevin Hitchcock.
Y broblem fawr wrth gwrs oedd nad dewis y perchenogion presennol oedd Mark. Ond roedden nhw wedi sicrhau amser iddo, roedden nhw'n ymwybodol, yn ôl y sôn, ei bod hi'n cymryd amser i osod sylfaen gadarn o fewn clwb.
Mae o'n amlwg felly i rywun rywle newid ei feddwl. Roberto Mancini, gyda chymorth Brian Kidd, fydd wrth y llyw ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Stoke. Amser a ddengys a fydd hynny yn ddewis doeth ai peidio.
Un peth sydd yn sicr fydd Mark Hughes ddim allan o waith am yn hir o ddewis ond mae'n debyg na chaiff o'r cyfle bellach i fod yn rheolwr yn Old Trafford neu Stamford Bridge.
Mi ddywedodd o unwaith wrtha i y byddai'n ystyried bod yn rheolwr cenedlaethol eto, ac nid o anghenraid ar Gymru. Dywedodd hefyd y byddai bod yn hyfforddwr dramor yn apelio.
Gawn ni weld ond dwi'n teimlo y bydd Manchester City ar eu colled ac nad adlewyrchiad ar Mark Hughes fel rheolwr yw hyn ond yn hytrach ar ofynion perchenogion tramor ariannog.
O leiaf fe dynnwyd y sylw oddi ar ddiffygion timau Rafael Benitez a Syr Alex Ferguson ddoe.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 