Help / Cymorth

Archifau Hydref 2009

Creu llanastr

Glyn Griffiths|16:59, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Mae'r stŵr ynglŷn â dyfodol Uwchgynghrair Cymru wedi codi ei ben eto, gyda rheolwr Caersws Mickey Evans a Tomi Morgan o Borthmadog yn mynegi eu hanfodlonrwydd.

Mae'n dod yn eithaf amlwg fod chwaraewyr na chaiff eu lle yn gyson mewn timau yn Uwchgynghrair Cymru yn ymuno gyda chlybiau mewn cynghreiriau is.

Ond yn ôl y rheol a wnaed gan bwyllgor penodol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, nid yw yn bosibl i glwb o'r Uwchgynghrair arwyddo unrhyw un, hyd nes y ffenestr drosglwyddo ym mis Ionawr.

Pwy ar wyneb y ddaear a feddyliodd am gynllun mor hurt?

Ac onid hap neu ddamwain yw hi mai aelodau o'r Gymdeithas, sydd eu hunain â chysylltiad agos ac is-gynghreiriau, sydd wedi creu'r rheol yma?

Mae Porthmadog eisoes wedi gorfod wynebu'r sefyllfa ble mae cael hyd i garfan lawn yn dod yn anodd heb orfod cynnwys chwaraewyr ifanc dibrofiad o'r tîm ieuenctid.

A chyn i rywun ymfalchïo drwy ddweud mai dyma'r ffordd i'w datblygu, gallaf eich sicrhau mai nid mewn tîm sydd yn ei chael yn anodd ar waelod cynghrair, mae datblygu dyfodol a hyder ieuenctid.

A yw'n bosibl i ni weld, cyn hir, gêm yn yr Uwchgynghrair yn cael ei gohirio am na all un o'r timau roi un a'r ddeg o chwaraewyr ar y cae?

Ai hyn oedd ym meddwl y pwyllgor doeth wrth iddynt fynd ati i newid y rheolau?

Mae llawer i chwaraewr wedi cael ei alw o flaen ei well am ddod ac anfri ar y gêm am bob math o resymau.

Ond yn sgil y penderfyniad yma ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr, onid yw hi'n amser i aelodau'r pwyllgor a greodd y rheolau newydd, hefyd ymateb i gyhuddiad tebyg oherwydd y llanastr maent wedi ei greu yn yr Uwchgynghrair eleni?

Hasta la vista Rafa?

Glyn Griffiths|09:13, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

Sylwadau (1)

'Stafell Benitez ys tawel heno, heb Gerrard, heb Torres; wylaf wers, twaf wedy", ond fydd yna neb yn dawel os fydd Lerpwl yn colli eu pumed gêm yn olynol yn erbyn Manchester United ddydd Sul.

Ydi'r diwedd yn agosau i Rafa Benitez? Gyda'r tîm yn sefyll yn ei unfan heb ddatblygu, yn union fel ac y gwnaeth tîm Gerard Houllier o'i flaen, does dim osgoi'r farn fod Lerpwl yn or-ddibynnol ar Stephen Gerrard a Fernando Torres, a heb y ddau yma, does gan y tîm fawr i'w gynnig.

beach_ball.jpg

Mae timau llwyddiannus Lerpwl, dros y blynyddoedd, wedi dangos nifer o rinweddau, ac roedd cynnwys nifer o chwarewyr gyda chymeriad a'r gallu i arwain yn un o'r cryfderdau allweddol ; ond nid mwyach.

Gyda blaenwr mor aneffeithiol â David Ngog, chwaraewr canol cae ddiddychymyg fel Lucas, ac Andrey Voronin yn cyfrannu dim, mae'n amlwg nad oes yna naill na chymeriad na gallu mewn dyfnder yn y garfan.

Y tu ôl i hyn i gyd mae sefyllfa fregus Lerpwl oddiar ar y cae yn gwneud pethau'n waeth. Hwyrach, fodd bynnag, y gall hyn fod yn achubiaeth i Benitez gan mai prif flaenoriaeth y clwb ar hyn o bryd yw sicrhau y dyfodol, yn hytrach na phenodi rheolwr newydd.

Yn sgil hyn, fodd bynnag, a yw hi'n fwy tebygol o weld Benitez yn cerdded os na chaiff o'r sicrwydd y byddai yna adnoddau ariannol ar ei gyfer, mor fuan ag sydd bosibl, er mwyn, unwaith eto, gryfau ac ail strwythuro y tîm?

Mae cyllid a threfn Lerpwl wedi ei drefnu ar gyfer llwyddo yn yr Uwchgynghrair a chymhwyso ar gyfer Cynghrair Pencampwyr Ewrop.

Petae y clwb yn methu a sicrhau y llwyddiant angehrheidiol i gyflawni hyn, ynghyd â'r arian a'r cyllid i'w gynnal, gall dyfodol y clwb ddod yn fwy fregus byth, a nid yn unig dyfodol Benitez yn y fantol, ond hefyd dyfodol y clwb yn gyfangwbwl.

Os fydd selogion y Kop yn gwynebu sefyllfa lle bydd Lerpwl "heb dân, heb wely," - yna bydd rhaid iddynt "wylo wers", a "thewi wedyn" am hynny o bosib, am byth!

Petae hyn yn digwydd i Lerpwl, faint o amser a fyddai yn ei chymeryd cyn gweld clybiau eraill yn cwympo yn yr un modd?

Y dethol rai

Glyn Griffiths|13:07, Dydd Gwener, 16 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Tri chynnig i Gymro efallai. Ond sawl cynnig i Ffrancwr tybed?

Wedi dweud hynny, tydi Cymru heb lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth pêl-droed ers peth amser, ac wedi cael mwy na thri chynnig i wneud hynny!

Fodd bynnag, mae FIFA wedi penderfynu fod yna restr o ddetholion am fod ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd,

Methodd Ffrainc, a oedd yn ddetholion ar gyfer y gemau rhagbrofol, ac ennill eu grŵp ac fel Gweriniaeth Iwerddon, Slofenia ac eraill, rhaid bydd chwarae gemau ychwanegol.

Ar ddechrau'r gystadleuaeth, doedd yna ddim son am drefnu detholion ar gyfer y gemau yr ail gyfle.

Ond ymddengys fod FIFA, fel llawer o gyrff eraill yn y byd pêl-droed yn anwybyddu cyfleoedd cyfartal ac am wneud unrhyw beth i sicrhau fod rhai gwledydd, sydd yn fwy tebygol o ddenu gwylwyr teledu, yn cymryd rhan yn ffeinals Cwpan y Byd, doed a ddel.

Wedi'r cwbwl pwy sydd am ruthro i weld Bosnia-Herzegovina yn chwarae yn erbyn Slofenia os gellir trefnu cystadleuaeth lle y gellir gwella'r siawns o weld Ffrainc yn erbyn Portiwgal?

Ai chystadleuaeth deg, sydd yna erbyn heddiw , neu benderfyniadau sydd yn ceisio sicrhau fod gwledydd a all ddenu arian i gronfa FIFA yn cael eu lle yn sioe fwyaf y byd pêl-droed?

Detholion FIFA ar gyfer y gemau ail gyfle:

Ffrainc
Rwsia
Portiwgal
Gwlad Groeg

A'r rhai na chafodd eu dethol:
Wcrain
Gweriniaeth Iwerddon
Bosnia-Herzegovnia
Slofenia

Oed yr addewid

Glyn Griffiths|14:44, Dydd Gwener, 9 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Gyda dwy gêm ryngwladol ar ôl, mae gobeithion yn cdi y gall Cymru orffen yr y trydydd safle yng ngrw^p rhagbrofion Cwpan y Byd.

Bydd angen curo y Ffindir a Liechtenstein - ond tydi hyn ddim ym amhosibl.

cymru_ymarfer.jpg

Mae yna ddigon o sylw yn caei roi i'r ffaith mai carfan o chwaraewyr ifanc sydd gennym, ond onid yw'r amser wedi cyrraedd pan y mae'n bryd i ni gyd roi'r gorau i gynnig esgusion pan mae pethau yn mynd yn groes, a dechrau disgwyl canlyniadau sydd yn rhoi hygrydedd i allu ein tô newydd.

Mae'r tîm dan un ar hugain wedi dangos y ffordd, ac wedi gwneud eu gwaith i sicrhau safonau uchel ar gyfer y dyfodol.

'Come on Cymru' felly, - dyma'r amser i ddechrau dangos cysondeb ar y lefel uchaf - cyrraedd y trydydd safle, a pharatoi ffordd well ar gyfer y dyfodol.

Does ond obeithio hefyd y bydd rhai o sêr hynaf Cymru yn parhau gyda'r garfan i ychwanegu profiad.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.