Symud cartref
Yfory mi fydd Caerdydd yn chwarae eu gêm ola' ym Mharc Ninian yn y gynghrair.
Er wrth gwrs, mae hi'n fwy na thebyg y bydda nhw yn chwarae un gêm arall yno, a hynny yng ngemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.
Stadiwm ysblennydd dros y ffordd yn Leckwith fydd y cartref newydd y tymor nesaf - palas o'i gymharu gyda Parc Ninian.
Beth yw eich atgofion chi o'r stadiwm hanesyddol? A fydd y stadiwm newydd cystal o ran awyrgylch ?
Yn bersonol does gennai ddim atgofion rhy bleserus o Barc Ninian!
Doedd gêm gyfartal ddim yn ddigon i Gymru yn erbyn yr Alban ar y noson ym mis Medi 1985 pan fu farw Jock Stein.
A 'dwi dal yn cael hunllefau am Gaerdydd yn curo Leeds United yng Nghwpan FA Lloegr yn 2002!
Be amdanoch chi ? Rhannwch eich atgofion gyda chriw Ar y Marc.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 