Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2008

Cydymdeimlad ag Abertawe

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|12:05, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Er garwed eu gŵyr gore - er yr hin
Sy'n'u crefft a'u chware,
Tewi fydd Abertawe
A Chaerdydd fydd ucha'r de.

Ymateb gan y Prifardd Aled Gwyn i her gan Dylan Jones ar Ar y Marc, Tachwedd 29, pan ofynnodd yn ystod y rhaglen i feirdd Cymru ymateb i'r her o gyfanosoddi cerdd neu gerddi cyn y gêm rhwng Abertawe a Chaerdydd, dydd Sul, Tachwedd 30ain.

Roedd Aled Gwyn yn digwydd gwrando, a chyn diwedd y rhaglen fe gysylltodd gyda'r englyn uchod.

Fe gysylltodd Iwan Morgan o Gwm Cynfal, Ffestiniog hefyd â'r rhaglen a chyfrannu yr englynion yma:

I Iwan Roberts o Ddyffryn Ardudwy - a oedd yn flaenwr gyda Watford cyn symud i Huddersfield, Wolves a Norwich. Cafodd hefyd sawl cap i Gymru. Bum yn ei ddysgu yn Ysgol y Dyffryn yn niwedd y saithdegau.

Tanbaid flaenwr yw'r gwron, - â'i esgid
Wisgi saetha'n union
A'r golwr dyrr ei galon,
Un garw yw ef â'r bêl gron.

(1986)

I Arsenal - y tîm a gefnogais ers 1961. Bu iddynt ennill y dwbwl yn y flwyddyn 2001-02 gan drechu Man U. a Lerpwl

Yn ei siom mae Ffyrgi'n sâl, - a hwyliau
Houllier ddim yn sbeshal,
Arsene wych, tîm Arsenàl
A saif, nid oes ei hafal.

Cymru 0 ... Rwsia 1 - byrfyfyr wrth wylio'r gêm ar y teledu o Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd

Rhoi eisin ar gacen Rwsia - wnaethom,
Methu eto'r tro 'ma
Dod â'r hwyl draw i Walia-
Pêl-droed hon sy'im digon da!

(Tachwedd 2003)

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.