Dysga fwy am graffiti a sut mae rhai yn gallu cyfleu neges wrth i Megan ac Ioan baratoi ar gyfer creu murlun yn yr ysgol.
Learn more about graffiti and how some can be used to convey a message as Megan and Ioan prepare to create a mural in the school.
MEGAN: A ha! Dyma ni!
NESMO: Beth yn y byd?
MEGAN: Can o baent. Paent gwyrdd. Paent coch. Paent gwyn. Perffaith!
NESMO: Sut mae'n gweithio?
IOAN: Rwyt ti'n gwasgu'r botwm…
MEGAN ac IOAN: Na!
MEGAN: Paid! Bydd paent yn chwistrellu i bobman!
IOAN: Mae'r caniau paent yn berffaith ar gyfer gwneud graffiti.
NESMO: Graff. I fi?
IOAN: Dim graff i ti. Graffiti! Math o gelf ydy graffiti.
MEGAN: Ar wal. Dim ar bapur.
IOAN: Rydyn ni'n mynd i dynnu llun ar wal yn yr ysgol. Murlun.
NESMO: Graffiti? Murlun? Dydw i ddim yn deall.
MEGAN: Chwilia am graffiti ar y we. Yna, gei di weld beth yw graffiti.
NESMO: Syniad da.
IOAN: Dw i'n hoffi graffiti. Mae'n gwneud waliau diflas yn ddiddorol a lliwgar.
MEGAN: Mae’r graffiti yma gan RMER yn dangos neges bwysig.
NESMO: Beth yw’r neges?
IOAN: Mae’n dangos bod Caerdydd yn perthyn i bawb. Does dim ots beth yw eich cefndir. Does dim ots beth yw eich hil.
MEGAN: Mae graffiti yn gallu dangos pob math o dangos negeseuon pwysig.
IOAN: Mae rhai yn werth arian. Llawer iawn o arian! Dyma lun penglog ar wal. Mae’n wych!
MEGAN: Ych a fi! Mae llun y penglog yn hyll.
IOAN: Baswn i’n hoffi tynnu llun penglog ar wal yr ysgol.
MEGAN: Dim o gwbl! Rydyn ni eisiau dangos bod yr ysgol yn perthyn i bawb. Dydyn ni ddim eisiau codi ofn ar y disgyblion!
IOAN: Dydw i ddim yn gallu tynnu lluniau.
NESMO: Wel, dw i wrth fy modd yn tynnu lluniau. Ga i dynnu llun ar wal y tŷ? Mae'r wal yn wyn ac yn ddiflas.
MEGAN: Na chei! Mae gwneud graffiti yn erbyn y gyfraith!
NESMO: Ond rydych chi yn gwneud graffiti yn yr ysgol.
MEGAN: Rydyn ni wedi cael caniatâd i wneud y murlun yn yr ysgol.
NESMO: O. Ga i dynnu llun ar y pren?
MEGAN: Wrth gwrs.
NESMO: Sefwch yn llonydd. A gwenwch! Dyna ni! Wedi gorffen.
IOAN: Llun gwych!
MEGAN: Rwyt ti'n dalentog iawn! Ond dwyt ti ddim yn y llun.
NESMO: Rhowch ddwy funud i fi.
MEGAN: O'r gorau.
NESMO: Ewch o ma! Wedi gorffen! Dw i'n cytuno. Mae'r llun lot gwell gyda fi ynddo!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count11 of 12

- count12 of 12

- count1 of 12

- count2 of 12
