Dysga am Ddydd Miwsig Cymru wrth i Megan, Ioan a Nesmo fynegi barn am y math o gerddoriaeth maen nhw'n ei hoffi - a ddim yn ei hoffi.
Learn about Dydd Miwsig Cymru as Megan, Ioan and Nesmo give their opinions on the music that they like and don't like.
MEGAN: Beth yn y byd?
IOAN: Nesmo, wyt ti'n iawn?
NESMO: Awww. Fy mhen.
MEGAN: Fy nrymiau i! Dw i ddim wedi chwarae’r drymiau ers i ni ffurfio band ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.
NESMO: Beth yw Dydd Miwsig Cymru?
MEGAN: Diwrnod i ddathlu cerddoriaeth Cymru. Mae pobl yn rhannu eu hoff ganeuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
IOAN: Mae gigs a fideos ar y we.
MEGAN: Roedd band gyda ni yn yr ysgol - 'Y Corgimwch Coch'.
IOAN: Ond wnaeth e ddim para yn hir.
NESMO: Pam?
MEGAN: Achos dydyn ni ddim yn hoffi yr un gerddoriaeth.
IOAN: Dw i'n caru roc trwm.
MEGAN: A dw i'n casáu roc trwm.
NESMO: Roc trwm?
IOAN: Dangosa fy ffôn ar y sgrin. Gwranda ar Alffa - fy hoff fand. Maen nhw'n swnllyd ac yn wych!
NESMO: Bobol bach!
MEGAN: Dw i'n anghytuno. Mae Mared yn well. Mae llais prydferth gyda hi.
IOAN: Mae gwahanol fathau o gerddoriaeth.
MEGAN: Ac mae'n bosib hoffi lot o wahanol fathau o gerddoriaeth. Dw i wrth fy modd gyda Bryn Terfel - cerddoriaeth glasurol.
IOAN: Diflas iawn yn fy marn i. Dw i'n hoffi band Calan achos mae'n gwneud i mi eisiau dawnsio.
NESMO: Dw i'n dwli ar fand Calan hefyd!
IOAN: Beth yw dy hoff gerddoriaeth di?
NESMO: Mae'n well gyda fi gerddoriaeth ein planed ni. Dim ond un math o gerddoriaeth sydd gyda ni, ond mae'n hudol ac mae pawb ar y blaned yn caru'r sŵn.
MEGAN: Ooo! Hoffwn i glywed y gerddoriaeth.
IOAN: A fi!
NESMO: O'r gorau. Ydych chi'n hoffi'r gerddoriaeth?
IOAN: Wel dw i ddim.
MEGAN: Dw i'n meddwl bod pawb yn hoffi cerddoriaeth gwahanol.
IOAN: A dw i'n cytuno gyda ti. Am unwaith.
NESMO: Chi'n hoffi fe felly!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count2 of 12

- count3 of 12

- count4 of 12

- count5 of 12
