Dysga sut i siarad am dy obeithion am y dyfodol wrth i Megan ac Ioan drafod beth hoffen nhw ei wneud yn y dyfodol.
Learn how to talk about your hopes for the future as Megan and Ioan discuss what they would like to do in the future.
MEGAN: Baswn i'n hoffi…
NESMO: Beth sy'n bod?
MEGAN: Mae gwaith cartref gyda fi. Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau.
NESMO: Aaa! Bydd Ioan yn gallu helpu!
IOAN: Helpu gyda beth?
MEGAN: Gwaith cartref. Rydyn ni fod ysgrifennu am ein gobeithion am y dyfodol.
NESMO: Beth yw gobeithion?
IOAN: Pethau byddech chi'n hoffi neu gobeithio bydd yn ddigwydd. Baswn i'n hoffi gweld Megan yn gwenu eto.
MEGAN: Dw i'n gobeithio gorffen y gwaith cartref yn y dyfodol agos!
IOAN: Baswn i'n hoffi swydd fel… fel gofodwr!
MEGAN: Baswn i ddim yn hoffi gweld ti'n hedfan roced. Dw i wedi gweld ti ar dy feic! Baset ti'n gyrru yn beryglus iawn.
IOAN: Baswn i'n mynd â baner Cymru i'r gofod am y tro cyntaf!
MEGAN: Mae rhywun wedi gwneud hynny yn barod.
IOAN: O.
NESMO: Beth faswn i'n gallu gwneud?
MEGAN: Dw i ddim yn siŵr.
IOAN: Baset ti'n gallu bod yn athro. Dysgu fi sut i fod yn ofodwr!
NESMO: O’r gorau. Gwers un - paid crasho ar y Ddaear fel fi!
IOAN: Dyna welliant. Rwyt ti'n chwerthin eto!
MEGAN: Ydw. Ond does dal dim byd ar fy mhapur i!
IOAN: Beth am swydd fel gohebydd bwyd?
NESMO: Gohebydd bwyd?
MEGAN: Maen nhw'n cael eu talu am fwyta bwyd wedyn ysgrifennu amdano.
IOAN: A thynnu lluniau o'r bwyd. Rwyt ti yn tynnu lluniau o dy fwyd o hyd! Brecwast - snap! Cinio - snap! Swper - snap!
MEGAN: Baswn i'n gallu mynd i Japan i flasu sushi blasus.
IOAN: Baset ti'n gallu mynd i'r Eidal i flasu pitsas bendigedig.
NESMO: Neu i'r blaned Fflachllan i flasu'r 'chwechgaff' gorau yn y bydysawd.
IOAN: Beth?
NESMO: Mae 'chwechgaff' y blaned Fflachllan yn… yn ansbaradigaethus!
MEGAN: A sut faswn ni'n cyrraedd Fflachllan?
IOAN: Baswn i yn mynd â thi yno yn fy roced wrth gwrs!
NESMO: A baswn i'n dod i ddangos y ffordd …
MEGAN: A helpu gyda'r blasu?
NESMO: Wrth gwrs! Gobeithio bod digon o ‘chwechgaff’ ar Fflachllan i ni gyd! M-m-m.
MEGAN: Dw i'n gwybod beth i ysgrifennu nawr. Diolch.
IOAN: Ysgrifenna a gwena.
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count5 of 12

- count6 of 12

- count7 of 12

- count8 of 12
