Dysga am farddoniaeth wrth i Megan ddarganfod coron yr Eisteddfod mewn bocs. Mae Megan ac Ioan yn trafod hanes yr Eisteddfod, yn ogystal ag iaith ac arddull barddoniaeth.
Learn about poetry as Megan discovers an crown from the Eisteddfod in a box. Megan and Ioan discuss the Eisteddfod's history and the style and language of poetry.
NESMO: Beth sydd yn y bocs Megan?
MEGAN: Coron Mam-gu!
NESMO: Mae dy nain yn frenhines?
MEGAN: Na! Mae Mam-gu yn fardd. Dyma goron yr Eisteddfod.
NESMO: Beth ydy Eisteddfod?
MEGAN: Gŵyl ble mae pobl Cymru yn dathlu a mwynhau pethau fel… cerddoriaeth…
IOAN: Drama, dawnsio, celf…
MEGAN: Barddoniaeth, crefftau. Pob math o bethau. Mae seremonïau. Mae’r bardd gorau yn ennill cadair neu goron.
IOAN: Roedd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi ym mil, cant, saith-deg-chwech.
NESMO: Oedd dy fam-gu yn yr Eisteddfod ym mil, cant, saith-deg-chwech, Megan?
MEGAN: Bobol bach, nag oedd. Dydy Mam-gu ddim mor hen â hynny! Mae hi dal yn ysgrifennu cerddi o dro i dro.
NESMO: Beth ydy cerddi?
IOAN: Mae cerdd yn ffordd o ddweud rhywbeth mewn iaith hardd. Wyt ti’n cytuno Megan?
MEGAN: Ydw, dw i’n cytuno. Dweud rhywbeth mewn iaith hardd a chreu darlun gyda geiriau.
IOAN: Rwyt ti’n gallu darllen cerddi. Maen nhw’n helpu ti i feddwl, chwerthin a deall pethau.
MEGAN: Rwyt ti’n gallu adrodd cerddi hefyd. Dweud y geiriau. Dangoswn ni i ti. Mae Ioan a fi am adrodd cerdd yn Eisteddfod yr ysgol cyn bo hir.
IOAN: Gwaetha’r modd.
MEGAN: Gyda’n gilydd.
IOAN: Gallai un person adrodd y gerdd.
MEGAN: Neu grŵp. Faset ti’n hoffi clywed y gerdd, Nesmo?
NESMO: Baswn i wrth fy modd!
IOAN: Na, Megan, dydyn ni ddim yn barod!
MEGAN: I Nesmo?
IOAN: Iawn…
MEGAN ac IOAN: Y Wenynen yn y Tŷ.
Wyt ti’n clywed sŵn
Yn dod o bell i ffwrdd?
Fel injan motobeic
Yn rhuthro’n wyllt i’n cwrdd –
NESMO: O diar!
IOAN: Diflas?
MEGAN: Poenus?
IOAN: Sbwriel?
NESMO: Diflas, poenus a sbwriel!
IOAN: Rydyn ni’n mynd i fod yn anobeithiol!
NESMO: Mae gen i syniad! Dechreuwch eto os gwelwch yn dda.
MEGAN ac IOAN: Wyt ti’n clywed sŵn
Yn dod o bell i ffwrdd?
MEGAN: Fel injan motobeic
IOAN: Yn rhuthro’n wyllt i’n cwrdd.
MEGAN: Wyt ti’n gweld mor ddig
Mae pump o lygaid du?
IOAN: Yn benderfynol o
Roi pigiad cas i ni!
MEGAN: Ond er y chwifio gwyllt
IOAN: A’r sgrechian fel hen wrach
MEGAN ac IOAN: Hedfanodd y wenynen mas
Drwy ffenest y tŷ bach!
IOAN: Dw i’n meddwl fod gwobr Eisteddfod arall ar y ffordd!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count7 of 12

- count8 of 12

- count9 of 12

- count10 of 12
