Dysga sut mae ieithoedd yn ein cysylltu wrth i Megan ac Ioan feddwl am eiriau sy'n debyg mewn ieithoedd gwahanol.
Learn about how languages connect us as Megan and Ioan think about words that sound similar in different languages.
MEGAN: Beth ydy enw dy blaned di, Nesmo?
NESMO: Enw fy mhlaned i ydy Sgranshdifflong.
IOAN: Megs… gwaith cartref…
MEGAN: O ie. Sori Nesmo, ond mae rhaid i ni fynd.
IOAN: Yn anffodus, mae gwaith cartref ganddo ni i’w wneud erbyn yfory.
MEGAN: A dydyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud.
NESMO: Beth ydy’r gwaith cartref?
MEGAN: Mae rhaid i ni ffeindio geiriau sydd yn debyg i eiriau Cymraeg. Geiriau sydd yn debyg yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg, er enghraifft.
NESMO: Beth ydy yn debyg?
MEGAN: Bron â bod yr un peth. Geiriau sy’n edrych yn debyg neu geiriau sy’n swnio’n debyg.
IOAN: Fel… mae’r rhif naw a’r gair nawr yn edrych a swnio’n debyg.
MEGAN: Hefyd - oed ac oedd.
IOAN: Ond geiriau Cymraeg ydy naw, nawr, oed ac oedd. Beth am yr ieithoedd eraill?
MEGAN: Dydy Ioan a fi ddim yn siarad ieithoedd eraill. Dim ond Cymraeg a Saesneg. Beth ydyn ni’n mynd i’w wneud?
IOAN: Y gair cyntaf ydy Pont.
NESMO: Pont…
IOAN: Pont Menai yng ngogledd Cymru! Pont Neuf yn Ffrainc. Ponte Vecchio yn Yr Eidal. Felly mae’r gair pont bron yr un peth yn Gymraeg, Ffrangeg ac Eidaleg!
MEGAN: Nesmo, alli di ddangos llun o’r Tŵr Eiffel ym Mharis os gweli di’n dda?
NESMO: Wrth gwrs.
MEGAN: A Thŵr Paxton yn Sir Gaerfyrddin? Edrych Ioan. Mae’r gair tour yn Ffrangeg a’r gair tŵr yn Gymraeg yn debyg iawn.
IOAN: A tower yn Saesneg!
MEGAN: Beth am eiriau eraill, ar wahân i leoedd?
IOAN: Beth am cath a cat?
MEGAN: Almaeneg hefyd. Ffenest!
IOAN: A fenêtre yn Ffrangeg. Ond pam bod y geiriau yn debyg Megan? Mae’r gwledydd yma’n bell i ffwrdd.
MEGAN: Mae pobl wedi teithio rhwng gwledydd, a dros y byd i gyd.
IOAN: Ond dydy pobl ddim yn siarad Ffrangeg dros y byd i gyd.
MEGAN: Maen nhw’n siarad Ffrangeg yng Nghanada a rhannau o Affrica. Maen nhw’n siarad Sbaeneg yn Ne America. Maen nhw’n siarad Cymraeg ym Mhatagonia.
NESMO: Ahem!
IOAN: Mae’r geiriau’n dod o Rufain?
MEGAN ac IOAN: Lladin!
MEGAN: Wrth gwrs! Teithiodd y Rhufeiniaid dros Ewrop i gyd. Dim rhyfedd fod yr ieithoedd yn debyg.
IOAN: Diolch Nesmo! Rwyt ti wedi helpu ni i wneud ein gwaith cartref. Ti’n seren! Beth oedd y sŵn yna?
NESMO: Seren yn fy iaith i. Mae’n debyg i’r Gymraeg.
IOAN: Ydy.
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count9 of 12

- count10 of 12

- count11 of 12

- count12 of 12
