Dysga am ystyr enwau lleoedd yng Nghymru wrth i Megan ac Ioan drafod lleoedd sy'n dechrau gyda Llan, Aber a Porth.
Learn about the meaning of Welsh place names as Megan and Ioan discuss places that start with Llan, Aber and Porth.
NESMO: Llangefni, Bangor…
IOAN: Beth wyt ti'n gwneud Nesmo?
NESMO: Dw i'n darllen stori. Stori ddiflas. Map ydy hwn. Dim stori! Mae’n dangos ble mae pentrefi, trefi a dinasoedd Cymru.
IOAN: Dw i wrth fy modd yn edrych ar fapiau ac enwau lleoedd. Dyma ni ar y map.
NESMO: Ble?
MEGAN: Symuda dy fys i mi gael gweld.
NESMO: Wna i roi'r map ar y teledu. Symudwch o'r ffordd.
IOAN: Mae rhywun wedi ysgrifennu ar y map efo pin ffelt.
MEGAN: Dad sydd wedi ysgrifennu ar y map i ddangos taith gerdded. Cerddon ni hyd yr arfordir rhwng Llanrhystud ac Aberaeron.
NESMO: Mae llawer o lefydd yn dechrau gyda 'Llan' ar y map. Llanrhystud, Llanarth, Llanelli, Llandudno…
IOAN: Oes.
NESMO: Llandeilo, Llanfyllin, Llanuwchllyn…
IOAN: Mae llawer o lefydd gyda’r enw Llan!
MEGAN: Mae eglwys mewn tref gyda’r enw ‘Llan’ fel arfer.
NESMO: Rydyn ni'n rhifo ein trefi ni. Dw i'n dod o dref Pum Deg Tri.
MEGAN: Rhifo eich trefi?
NESMO: Mae'n system effeithiol.
IOAN: Ond ddim mor ddiddorol. Mae ystyr i lawer o'n henwau ni.
MEGAN: Fel 'Aber' sy'n golygu ble mae afon yn rhedeg i'r môr. Mae'r afon Ystwyth yn rhedeg i'r môr yn Aberystwyth.
IOAN: Mae'r afon Tawe yn rhedeg i'r môr yn Abertawe.
NESMO: A'r afon Aeron yn rhedeg i'r môr yn Aberaeron.
IOAN: Yn union!
MEGAN: Cawson ni hufen iâ yn Aberaeron.
NESMO: Mmmm. Hufen iâ. Blasus!
MEGAN: Dw i'n dwli ar gerdded ar hyd yr arfordir achos dw i'n hoffi awyr iach a golygfeydd prydferth. Hefyd, mae’n helpu chi i gadw’n heini.
IOAN: Mae'n gas gen i gerdded achos mae'n waith caled a diflas iawn!
MEGAN: Gwelais i ddolffiniaid yn y môr. Roedd hynny'n gyffrous! Rhwng Abereiddi a Phorthgain.
NESMO: Porthgain. Porth - fel yn Porthmadog, Porthcawl, Porthyrhyd…
IOAN: Ystyr 'porth' ydy mynedfa neu ddrws. Mae sawl lle o'r enw 'porth' ar lan y môr.
NESMO: Achos bod drws yno?
IOAN: Achos bod y pentref yn 'ddrws' i'r môr.
MEGAN: Mae mam-gu a dad-cu yn dod o Borthcawl. Dw i’n galw nhw yn Mam-gu a Dad-cu Porthcawl.
IOAN: Dwi'n galw nain yn Nain Llandudno - achos ei bod hi'n dod o Landudno.
NESMO: Mae fy modryb i yn byw yn y dref naw cant a thri deg chwech. Dw i'n mynd i alw hi yn Modryb Naw Cant Tri Deg Chwech o hyn ymlaen!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count12 of 12

- count1 of 12

- count2 of 12

- count3 of 12
