Cyfle i ymarfer defnyddio'r gorffennol, yr amser perffaith a'r amherffaith wrth i Megan ac Ioan drafod y ''trysor'' mae Nesmo wedi ei ddarganfod yn y bocs.
Practice using the past tense, the perfect tense and the imperfect tense as Megan and Ioan discuss the ''teasure'' that Nesmo has discovered in the box.
NESMO: Dw i wedi ffeindio trysor!
IOAN: Ffeindio trysor?
MEGAN: Yn y garej? Paid siarad dwli!
NESMO: Paid siarad dwli?
IOAN: Paid siarad nonsens.
NESMO: Edrychwch!
IOAN: Beth sydd yn y bocs?
NESMO: Dw i ddim yn gwybod.
MEGAN: Mi wnes ti - y creadur mwyaf busneslyd yn y bydysawd - aros tan bo ni'n dod cyn ei agor?
NESMO: Wel, agorais i'r bocs, ond dw i ddim wedi cyffwrdd â dim! Wir! Gawn ni agor y bocs. Plis?
IOAN: Tyrd ymlaen Megan! Agor y bocs!
MEGAN: Www. Dyma ddarn o fy ngwallt pan oeddwn i'n fabi.
IOAN: Roeddet ti'n ciwt pan oeddet ti'n fabi!
MEGAN: Bydd yn dawel.
NESMO: Ydy gwallt pobl yn werthfawr? Gallwch chi werthu fe am arian mawr?
IOAN: Does neb eisiau prynu gwallt Megan!
MEGAN: Mae mam a dad yn hoffi cofio pan oeddwn yn fabi. Mae'r atgofion yn werthfawr.
IOAN: Ond dydych chi ddim yn gallu gwerthu nhw. Beth arall oedd dy rieni wedi rhoi yn y bocs?
MEGAN: 'Esgidiau cyntaf Megan'.
IOAN: Mawredd mawr! Roedd dy draed yn fach!
MEGAN: Ac roeddwn i yn fach. Yn ddigon bach i ffitio mewn i hwn!
IOAN: Edrychwch! Papur newydd o'r diwrnod cest ti dy eni!
NESMO: Dydw i ddim yn deall y geiriau.
IOAN: Geiriau Saesneg ydyn nhw.
MEGAN: Mae pobl yn siarad Cymraeg, Saesneg, a nifer o ieithoedd eraill yng Nghymru.
NESMO: Siarad Cymraeg a Saesneg? Beth ydy'r pwynt?
MEGAN: Mae dysgu iaith yn bwysig. Mae dysgu iaith yn help i chi werthfawrogi gwlad yn well.
IOAN: Mae dysgu iaith yn help i chi ddeall hanes gwlad yn well hefyd. Mae iaith yn werthfawr.
NESMO: Beth yw hwn?
MEGAN: Cof bach ydy e. Falle bod lluniau arno.
NESMO: Dewch i ni weld!
MEGAN: Fideo o fi yn fabi!
NESMO: Pa iaith wyt ti'n siarad?
MEGAN: Doeddwn i ddim yn siarad iaith. Roeddwn i'n gwneud synau.
IOAN: Roedd hi'n siarad dwli - fel arfer!
NESMO: Roedd hi'n siarad dwli? Dim Cymraeg? Pam?
IOAN: Roedden ni yn dysgu Cymraeg pan oedden ni yn fach.
MEGAN: Yn dysgu geiriau a brawddegau.
IOAN: Yn gwrando ac yn ymarfer.
MEGAN: Yn union fel rwyt ti'n dysgu Cymraeg.
NESMO: Ac mae dysgu iaith yn werthfawr.
IOAN a MEGAN: Ydy!
NESMO: Dw i eisiau dysgu Cymraeg, a dysgu dwli!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count4 of 12

- count5 of 12

- count6 of 12

- count7 of 12
