Dysga fwy am draddodiadau Cymru wrth i Megan ac Ioan egluro pwysigrwydd symbolau fel llwyau caru a dathliadau fel Dydd Santes Dwynwen i Nesmo.
Learn more about Welsh traditions as Megan and Ioan explain the importance of symbols such as love spoons and celebrations like St Dwynwen's Day to Nesmo.
MEGAN: Beth wyt ti'n darllen?
NESMO: Llyfr coginio llawn ryseitiau blasus.
IOAN: Beth oedd y sŵn?
NESMO: Pa sŵn?
IOAN: Wyt ti'n llwglyd?
NESMO: Dw i yn llwglyd i fod yn onest. Dw i eisiau bwyd.
MEGAN: Mae cawl yn y gegin.
IOAN: Fy hoff fwyd! Bydd cawl yn llenwi dy fol!
NESMO: Beth ydy cawl?
MEGAN: Bwyd blasus o Gymru ydy cawl.
NESMO: Beth ydy'r cynhwysion?
MEGAN: Cig oen, tatws, moron, pannas, cennin…
NESMO: Fel cinio dydd Sul!
MEGAN: Wel ie… a na… achos mae'r cyfan mewn dŵr.
NESMO: Cinio dydd Sul mewn dŵr?
MEGAN: Mae'n flasus iawn. Wir i ti!
IOAN: Bowlen o gawl poeth!
MEGAN: Wyt ti wedi dod â llwy?
IOAN: O daria. Anghofiais i! Un funud!
NESMO: Does dim rhaid. Mae llwy yn y bocs. Ga i'r llwy Megan?
MEGAN: Paid defnyddio'r llwy yma. Llwy garu ydy hi.
NESMO: Bydd dim ots gyda Gary.
IOAN: Pwy yw Gary? O! Dim llwy Gary. Llwy garu.
MEGAN: Llwy o gariad ydy hi. Anrheg i ddangos cariad ydy'r llwy.
IOAN: Yng Nghymru mae'n draddodiad rhoi llwy garu - cariad - i bobl ar ddiwrnod priodas.
NESMO: O. Dw i'n gweld. Mae'r llwy yn ffansi.
MEGAN: Mae calon yn symbol o gariad. Mae cloch yn symbol o briodi neu fyw yn gytûn, ac mae pedol yn symbol o lwc.
NESMO: Bydda i'n lwcus os bydda i'n cael llwy cyn bod y cawl yn oeri!
IOAN: Wps! Sori! Un eiliad…
NESMO: Oes rhaid rhoi llwy garu i ddangos cariad?
MEGAN: Nag oes. Mae llawer o bobl yn rhoi carden i'w cariad ar Ddydd Santes Dwynwen.
NESMO: Dydd Santes Dwynwen?
MEGAN: Ym mis Ionawr bob blwyddyn rydyn ni'n dathlu Dydd Santes Dwynwen - santes cariadon Cymru. Ionawr dau ddeg pump. Diwrnod Santes Dwynwen.
IOAN: Bobol bach!
NESMO: Mmmm. Blasus iawn! Dyma anrheg i chi. Dim llwy garu… ond fforc a chyllell garu. Maen nhw’n dangos fy nghariad i. Mae set garu lawn gyda chi nawr.
IOAN: Set garu lawn i Gary!
MEGAN: Diolch Nesmo!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count6 of 12

- count7 of 12

- count8 of 12

- count9 of 12
