Dysga fwy am farddoniaeth wrth i Megan, Ioan a Nesmo drafod pa gerddi yr hoffen nhw eu creu, beth fydd y pwnc a sut fydden nhw yn defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau wrth ysgrifennu.
Learn more about poetry as Megan, Ioan and Nesmo discuss what sort of poems they would like to write, which themes they would include and how they will use adjectives and comparisons when writing.
MEGAN: Haia.
NESMO: Bore da. Sut wyt ti?
MEGAN: Dw i’n teimlo’n drist. Mae fy ffrind, Zara, wedi mynd i fyw i wlad arall. Dw i’n mynd i fethu Zara.
IOAN: Mefus - i godi dy galon di.
NESMO: Gwneud beth i galon Megan?
IOAN: Paid poeni, Nesmo. Teimlo’n hapusach - dyna beth ydy codi calon. Weithiau, mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth neu ddarllen i godi calon.
MEGAN: Mae rhai yn ysgrifennu cerdd neu gân.
NESMO: Ga’i ysgrifennu cerdd?
MEGAN: Y peth cyntaf i wneud ydy dewis pwnc. Cerdd am beth fydd hi?
NESMO: Dw i eisiau ysgrifennu cerdd am fy ffrind.
IOAN: Sut fydd y gerdd yn teimlo? Hapus? Trist? Doniol? Ha ha ha!
NESMO: Trist. Achos dw i’n methu fy ffrind, fel Megan.
MEGAN: Wel, wedyn mae’n rhaid disgrifio’r pwnc. Fel… mae fy ffrind, Zara, yn ddoniol.
NESMO: Ah, iawn. Mae fy ffrind, Pochdisprêg, yn driongl.
IOAN: Triongl? Does neb yn siâp triongl!
NESMO: Mae Pochdisprêg.
MEGAN: Mae e’n byw ar blaned arall.
IOAN: Digon teg…
MEGAN: Beth am ddefnyddio’r gair ‘fel’? Mae gwallt du fel sidan gyda Zara.
IOAN: Mae mefus yn felys fel losin.
NESMO: Mae dannedd fel pysgod gyda Pochdisprêg.
IOAN a MEGAN: Dannedd fel pysgod?
NESMO: Gwlyb, meddal, lliwiau gwahanol.
MEGAN: Iawn… Felly, dyma linell yn y gerdd:
Mae gyda Zara wallt fel sidan du.
Mae mwy nag un llinell mewn pennill, ac weithiau mae mwy nag un pennill mewn cerdd.
Dyma ffurf y gerdd:
Mae gyda Zara wallt fel sidan du…
IOAN: Dw i’n chwerthin llawer gyda hi!
MEGAN: Gwych! Mae’n odli hefyd. Mae’r gair hi yn swnio fel y gair du.
Mae gyda Zara wallt fel sidan du.
Dw i’n chwerthin llawer gyda hi.
NESMO: Tro fi.
Triongl ydy fy ffrind i, Pochdisprêg.
Mae dannedd seimllyd yn ei geg.
MEGAN: Hoffwn weld Zara ar ddiwrnod braf,
A cherdded ger afon yn yr haf.
NESMO: Hoffwn weld Pochdi mewn lle wedi rhewi,
Achos pan mae hi’n boeth, mae Pochdi yn drewi!
IOAN: Mae’r cerddi wedi codi’n calonnau ni i gyd!
MEGAN: Wel, dw i’n hapusach beth bynnag.
NESMO: A fi! Diolch.
NESMO: Ond nawr dw i am ysgrifennu cerdd am ti a Ioan.
Bachgen bach ydy Ioan fy ffrind.
Mae mefus Megan wedi mynd.
MEGAN: Nesmo!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count8 of 12

- count9 of 12

- count10 of 12

- count11 of 12
