Dysga fwy am fathau gwahanol o wyliau wrth i Nesmo holi Ioan am ei hoff wyliau.
Learn about different types of holidays as Nesmo asks Ioan about his favourite holiday.
IOAN: Nesmo. Dyma ti. Mwy o fwyd.
NESMO: Diolch!
IOAN: Diolch byth bod gwyliau Megan bron ar ben. Dw i wedi blino siopa bwyd i ti, Nesmo.
NESMO: Ble mae Megan wedi mynd ar wyliau?
IOAN: Mae hi wedi mynd i weld ei nain. Mae nain Megan yn byw ar lan y môr.
NESMO: Ble wyt ti’n mynd ar wyliau, Ioan?
IOAN: Dw i ddim yn siŵr. Ar un llaw dw i’n mwynhau sgïo dŵr, gwibio ar wifren, a dringo, ond ar y llaw arall fy hoff beth i ydy chwarae pêl-droed ar y traeth. Beth oedd y sŵn yna? Cuddia, Nesmo!
NESMO: Pam rydyn ni’n cuddio, Ioan?
IOAN: Achos dydw i ddim yn byw yma a dydyn ni ddim eisiau neb i ffeindio ti!
MEGAN: Pam rydych chi’n cuddio?
IOAN: Megan! Diolch byth!
NESMO: Megan! Rwyt ti adref. Croeso!
MEGAN: Diolch. Mae gen i anrheg i chi.
NESMO: Rhywbeth i fwyta?
MEGAN: Ie. Ffon roc o lan y môr. Mae’n flasus iawn.
NESMO: Www, diolch.
IOAN: Ces di amser braf?
MEGAN: Do diolch.
IOAN: Wyt ti wedi bod ar wyliau o gwbl, Nesmo?
NESMO: Ydw. Es i i blaned o’r enw Chwistron. Teithiais i mewn roced.
IOAN: Trwy’r sêr a phlanedau eraill?
NESMO: Ie. Roedd yn gyffrous iawn. Planedau pob lliw, pob siâp, rhai bach a mawr.
MEGAN: Sut le ydy Chwis…?
NESMO: Chwistron? Planed fach ydy hi gyda lleuad binc a dau haul.
IOAN: Mae dau haul yno?
NESMO: Oes.
MEGAN: Ydy hi’n boeth yno?
NESMO: Ydy, poeth iawn.
MEGAN: Wyt ti erioed wedi bod i’n planedau ni? Mercher neu Sadwrn?
NESMO: Dydd Mercher a dydd Sadwrn?
IOAN: Mae gan rai o’r planedau yr un enwau â dyddiau’r wythnos. Mercher a Sadwrn. Hefyd dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener. Un o’r misoedd hefyd.
NESMO: Mis Mawrth!
MEGAN: Ie! Falle fydd dim gwyliau arall i ti, Nesmo. Mae dy roced di wedi torri.
IOAN: Dim mwy o hedfan trwy’r planedau a’r sêr.
NESMO: Fan hyn ydy’r gwyliau gorau dw i erioed wedi cael! Gyda’r ffrindiau gorau posib. Ac mae bwyd yn cyrraedd bob dydd!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count10 of 12

- count11 of 12

- count12 of 12

- count1 of 12
