Dysga sut i fynegi barn am chwaraeon wrth i Megan ac Ioan drafod beth maen nhw'n ei hoffi a pham.
Learn how to express your opinion on sport as Megan and Ioan discuss their likes and dislikes, and why.
IOAN: Barod?
MEGAN: Beth ydych chi'n gwneud?
IOAN: Rydyn ni’n chwarae pêl-droed. Nesmo a fi.
MEGAN: Dim pêl-droed yn y garej!
IOAN: Sori. Dw i'n esbonio rheolau pêl-droed wrth Nesmo.
NESMO: Gêm rhwng dau dîm. Un deg un chwaraewr ym mhob tîm. Maen nhw'n ceisio cicio'r bêl rhwng dau fwced.
IOAN: Maen nhw'n ceisio sgorio gôl.
NESMO: Ac mae’r gôl-geidwad yn sefyll o flaen y gôl tra bod pobl yn cicio'r bêl at y gôl.
IOAN: Ie. Dyna ni!
NESMO: Ac mae pobl yn dewis gwneud hyn?
IOAN: Ydyn!
MEGAN: Mae llawer o offer chwaraeon yn y bocs.
NESMO: O diar. Mae'r bêl yna yn fflat!
MEGAN: Nac ydy. Dyma'r siâp cywir. Pêl rygbi ydy hi.
NESMO: Rygbi?
IOAN: Gêm arall. Dim cystal â phêl-droed. Mae pêl-droed yn well na rygbi yn fy marn i.
MEGAN: Mae rygbi yn well na phêl-droed yn fy marn i.
IOAN: Mae gormod o reolau cymhleth mewn gêm rygbi.
MEGAN: Mae gormod o actio dramatig mewn gêm bêl-droed. O! Dw i wedi cael dolur!
NESMO: Beth ydy hwn?
MEGAN: Ffon hoci. Dw i wrth fy modd yn chwarae hoci.
IOAN: Dw i'n hoffi chwarae tenis!
NESMO: Pam ydych chi'n hoffi chwaraeon?
MEGAN: Dw i'n hoffi bod yn rhan o dîm. Mae gen i ffrindiau da yn y tîm hoci.
IOAN: Dw i'n hoffi ennill!
MEGAN: Ond does dim rhaid ennill i fwynhau.
IOAN: Dim ond pobl sy'n colli sy'n dweud hynny! Dim enillwyr.
MEGAN: Mae chwaraeon yn cadw ni'n hapus ac yn heini, ac yn gryf!
NESMO: Hoffwn i drio chwaraeon.
MEGAN: Hoffet ti drio pêl-fasged?
IOAN: Hoffet ti drio criced? Merlota?
MEGAN: Bocsio?
IOAN: Golff?
MEGAN: Beicio?
IOAN: Athletau?
MEGAN: Canŵio?
IOAN: Nofio?
MEGAN: Jiwdo?
IOAN: Sgïo?
NESMO: Wow! Hoffwn i drio… snorclo mewn cors! Dyna’r chwaraeon i mi. Dw i wrth fy modd mewn dŵr a mwd. Mae’n dawel a does neb yn cicio peli ata i!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count1 of 12

- count2 of 12

- count3 of 12

- count4 of 12
