Dysga fwy am ddathliadau, fel partïon pen-blwydd, wrth i Megan a Ioan hel atgofion am bartïon yn y gorffennol.
Learn more about celebrations, such as birthday parties, as Megan and Ioan reminiss about parties in the past.
NESMO: Caled a llyfn. Blas - diddorol.
MEGAN: Paid Nesmo! Dim bwyd ydy e!
NESMO: Dim bisgedi?
MEGAN: Na. Paent wyneb.
NESMO: Beth ydy paent wyneb?
MEGAN: Paent i dynnu lluniau ar eich wyneb. Llun pili pala, wyneb cath, wyneb ci… Wyt ti eisiau mwstash?
IOAN: Rwyt ti MOR blentynnaidd!
MEGAN: Dw i'n cofio ti yn cael wyneb teigr yn fy mharti pen-blwydd yn saith oed. Roeddet ti'n rhuo fel teigr wedyn! W-a-a-a-a-a-r!
IOAN: Ha ha.
NESMO: Parti pen-blwydd. Beth ydy parti pen-blwydd?
MEGAN: Parti i ddathlu dy ddiwrnod geni. Mae lluniau o fy mharti pen-blwydd gyda fi ar fy ffôn. Rho nhw ar y sgrin.
IOAN: Rwyt ti wrth dy fodd yn tynnu dy lun!
MEGAN: Pwy? Fi? Mae parti yn lot o hwyl! Rydych chi'n cael anrhegion ar eich pen-blwydd.
IOAN: Fy hoff beth i am barti ydy anrhegion.
NESMO: Beth ydy'r pethau crwn, lliwgar?
IOAN: Balŵns. Fel hwn. Dw i'n caru balŵns!
NESMO: Ond mae hwnna'n fflat. Edrychwch ar y bwyd!
MEGAN: Mae bwyd blasus mewn parti. Brechdanau, moron, ciwcymbr, hwmws…
IOAN: A pizza!
MEGAN: Bolgi!
IOAN: Anrheg i ti. Rhaid cael hwyl mewn parti da. Dw i eisiau parti pêl-baentio yn y goedwig.
MEGAN: Rwyt ti mor blentynnaidd! Byddai'n well gen i gael parti rafftio dŵr gwyn.
NESMO: Rafftio?
MEGAN: Ie. Mynd lawr afon ar rafft.
IOAN: Mae'n lot o hwyl!
NESMO: Mae parti yn edrych yn lot o hwyl. Dw i ddim wedi cael parti pen-blwydd.
MEGAN: Paid bod yn drist. Trefnwn ni barti pen-blwydd i ti.
IOAN: Parti efo anrhegion, addurniadau a bwyd blasus.
MEGAN: A chacen siocled fawr i ti.
NESMO: Cacen gyfan? I fi?
IOAN: Rhaid rhannu'r gacen efo ni!
NESMO: O. Dyna drueni.
IOAN: Galla i roi canhwyllau ar y gacen.
MEGAN: Un ar gyfer pob blwyddyn rwyt ti wedi byw.
IOAN: Beth ydy dy oed di?
NESMO: Dw i'n un mil chwe chant o flynyddoedd oed.
IOAN: O diar… does dim digon o ganhwyllau yn y pecyn!
MEGAN: Does dim digon o ganhwyllau yn y siop!
NESMO: Dim ots am y canhwyllau, ond peidiwch anghofio'r gacen siocled!
More on Listening practice
Find out more by working through a topic
- count3 of 12

- count4 of 12

- count5 of 12

- count6 of 12
