Ymateb a rhyngweithioYmarfer

Bydd y canllaw hwn yn dy baratoi di ar gyfer y dasg grŵp yn yr arholiad llafar. Mae'n cynnwys cyngor i ti ei ddilyn er mwyn ennill y marciau gorau posibl.

Part ofCymraegLlafar

Ymarfer

Fel grŵp, trafodwch un o’r pynciau isod:

  • mae’r cyfryngau’n dylanwadu gormod ar bobl ifanc
  • a ddylai holl ysgolion Cymru fod yn ysgolion Cymraeg
  • a ddylai pobl ifanc o dan 18 oed bleidleisio

Gofynnwch i bobl eraill wrando arnoch chi a mynegi eu barn yn onest. Hefyd, gallwch recordio eich hunain er mwyn gwrando arnoch chi eich hunain a gwerthuso eich trafodaeth. Medrwch ystyried y meini prawf/cynllun marcio'r dasg. Byddwch yn dysgu oddi wrth eich camgymeriadau a defnyddio’r pethau llwyddiannus wnaethoch chi eto.

Sut mae llwyddo?

Defnyddiwch y rhestr wirio i’ch helpu.

Rhestr wirio syml am sut i wneud cyflwyniad llwyddiannus.

More guides on this topic