Sgiliau trafod
Yn nhrafodaeth y grŵp, bydd angen i ti ddangos dy fod yn medru rhyngweithio ac ymateb i syniadau aelodau dy grŵp. Bydd angen i ti fod yn hyderus gan adael i eraill drafod a mynegi eu barn nhw hefyd. Cofia fod gwrando yr un mor bwysig â siarad.
Dangosa dy fod yn gwrando gan:
- wneud cyswllt llygad gyda’r person sy’n siarad ac ymateb i’w safbwyntiau
- adeiladu ar syniadau eraill
- cwestiynu pwyntiau sy’n cael eu gwneud gan eraill
Bydd eich trafodaeth yn llwyddiannus os bydd yn llifo’n dda gydag aelodau’r grŵp yn cytuno ac yn anghytuno gan gynnig rhesymau dros eu barn a’u safbwyntiau. Rhaid i bawb gael cyfle i gyfrannu.
Rhaid i ti osgoi:
- torri ar draws
- tarfu yng nghanol brawddeg
- siarad dros bobl eraill
Er mwyn dechrau'r drafodaeth gofynna gwestiynau agored, sef cwestiynau nad ydyn nhw'n gallu cael eu hateb gan ddefnyddio ‘ie’ neu ‘na’. Gallant arwain at drafodaeth gyfeillgar a diddorol.
Anela at fod yn:
- gwrtais – parcha farn a safbwyntiau pobl eraill
- cadarnhaol – cynorthwya eraill gan ddatblygu’r sgwrs
- teg – gwranda ar ddwy ochr y ddadl ac ymateba i’r ddwy yn barchus