Cyflwyniad i’r dasg grŵp
Dyma dasg y byddi di’n ei chwblhau fel rhan o grŵp a bydd disgwyl i chi gynnal trafodaeth o tua deg munud.
Byddwch yn derbyn sbardun trafod gan eich athro neu athrawes cyn yr arholiad. Ar y sbardun bydd ffeithiau ac ychydig o wybodaeth ond bydd rhaid i chi fel grŵp i ymchwilio ymhellach i’r pwnc.
Nid oes hawl gennych chi i sgriptio’r drafodaeth oherwydd bydd angen trafodaeth naturiol.
Ble mae dechrau?
Y nod wrth gwblhau’r dasg hon yw i fynegi barn ar y pwnc dan sylw. Defnyddiwch y ffeithiau/wybodaeth ar y sbardun er mwyn arwain eich gwaith ymchwil. Mae croeso i chi sôn am eich profiadau personol wrth drafod.