Ymateb a rhyngweithioY drafodaeth

Bydd y canllaw hwn yn dy baratoi di ar gyfer y dasg grŵp yn yr arholiad llafar. Mae'n cynnwys cyngor i ti ei ddilyn er mwyn ennill y marciau gorau posibl.

Part ofCymraegLlafar

Y drafodaeth

Fel grŵp, cewch gyfle i baratoi cyn sefyll yr arholiad ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio ar y cyfle i fynegi eich barn ac i drafod eich gwaith ymchwil.

Rhaid i ti gymryd sylw o sylwadau aelodau’r grŵp. Cymera nodiadau byrion wrth wrando er mwyn ysgogi dy gof pan mai dy dro di fydd hi i gyfrannu.

Dyma rai brawddegau i dy helpu:

  • rwy’n cytuno gyda’r hyn soniaist ti amdano ond…
  • hoffwn ychwanegu at dy bwyntiau…
  • pan drafodaist am… meddyliais…
  • yn ychwanegol at dy sylwadau am…

Cofia, nid oes angen i chi gytuno gyda’ch gilydd. Pwrpas y dasg yw i ddechrau trafodaeth am bwnc arbennig ac i glywed barn amrywiol. Yn yr achos hwn galli di ddefnyddio’r brawddegau isod:

  • rwy’n deall dy safbwynt am… ond rwy’n credu…
  • anghytunaf gyda dy bwynt am…
  • dydw i ddim yn cytuno gyda dy safbwynt am… credaf i…
  • pan ddywedaist… tybed a wnest di ystyried…

Mae gwrando yr un mor bwysig â siarad. Mae’n bwysig dy fod yn annog ac yn rhoi’r cyfle i eraill rannu eu syniadau.

More guides on this topic