Y mesurau caethEnglyn milwr

Yma cei esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y cerddi caeth a’r cerddi rhydd, a chei dy arwain drwy brif fesurau’r cerddi caeth bydd angen i ti eu dysgu.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Englyn milwr

Pennill o dair llinell yw englyn milwr. Nid oes gwant yn yr englyn.

Edrycha ar yr enghraifft isod o gerdd Rhys Iorwerth Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor:

Diagram i arddangos strwythur englyn milwr.

Sut mae adnabod englyn milwr?

  • Ceir cynghanedd yn llinell un a tri.
  • Un prif odl sydd - ar ddiwedd pob llinell sydd ym mhob pennill.
  • Ceir saith sillaf ymhob llinell.

Beth yw effaith y gynghanedd yn y gerdd hon?

NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd“Ym mrad yr edrychiadau, / yn sŵn ein dawns ni ein dau, / am ei swyn mi es innau.”Mae’r gynghanedd yma’n ychwanegu at ramant yr olygfa. Mae’r bardd wedi ei gyfareddu gan y ferch ac mae’r gynghanedd yn cyfleu rhythm eu dawnsio.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad“Ym mrad yr edrychiadau, / yn sŵn ein dawns ni ein dau, / am ei swyn mi es innau.”
EffaithMae’r gynghanedd yma’n ychwanegu at ramant yr olygfa. Mae’r bardd wedi ei gyfareddu gan y ferch ac mae’r gynghanedd yn cyfleu rhythm eu dawnsio.