Y mesurau caethEnglyn penfyr

Yma cei esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y cerddi caeth a’r cerddi rhydd, a chei dy arwain drwy brif fesurau’r cerddi caeth bydd angen i ti eu dysgu.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Englyn penfyr

Mae'n bosib adnabod englynion penfyr gan eu bod yn edrych yn debyg i englynion unodl union. Yr unig wahaniaeth yw mai tair llinell sydd mewn englyn penfyr.

Edrycha ar yr enghraifft isod o gerdd Aneirin Karadog Gweld y Gorwel:

Diagram i arddangos strwythur englyn penfyr.

Sut mae adnabod englyn penfyr?

  • Mae gwant yn y llinell gyntaf.
  • Ceir tair llinell o gynghanedd.
  • Ceir deg sillaf yn y llinell gyntaf, chwe sillaf yn yr ail linell a saith sillaf yn y llinell olaf - yr union yr un peth ag englyn unodl union.
  • Un prif odl sydd - cyn y gwant ac ar ddiwedd pob llinell arall.

Beth yw effaith y gynghanedd yn y gerdd hon?

NodweddDyfyniadEffaith
Cynghanedd“Yn rehab, bod yw’r rheol - bod drwy’r dydd, / bod drwy’r daith hunanol / wna’r druggie’n dod o’i rigol.”Mae’r mesur yn addas ar gyfer y gerdd hon oherwydd mae caethiwed mesur yr englyn penfyr yn cyfleu caethiwed dyddiol y druggie yn rehab ond hefyd ei frwydr i dorri’n rhydd o grafangau cyffuriau.
NodweddCynghanedd
Dyfyniad“Yn rehab, bod yw’r rheol - bod drwy’r dydd, / bod drwy’r daith hunanol / wna’r druggie’n dod o’i rigol.”
EffaithMae’r mesur yn addas ar gyfer y gerdd hon oherwydd mae caethiwed mesur yr englyn penfyr yn cyfleu caethiwed dyddiol y druggie yn rehab ond hefyd ei frwydr i dorri’n rhydd o grafangau cyffuriau.