Y GIG yn 21ain ganrif
Mae’r dyfyniad hwn o erthygl newyddion y BBC ym Mawrth 2012 yn datgelu bod y GIG erbyn hyn yn un o gyflogwyr mwyaf y byd. Nid yw’n fawr o syndod ei fod yn costio cymaint i’w redeg.
Wrth fesur cyflogwyr mwyaf y byd a llunio rhestr o’r 10 mwyaf, datgelir mai’r GIG yw’r pumed mwyaf, gyda 1.7 miliwn o weithwyr ar draws Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae McDonald’s yn bedwerydd, gyda 1.9 miliwn o weithwyr. Yn drydydd mae cadwyn archfarchnadoedd yr UDA, Walmart, sy’n cyflogi 2.1 miliwn o aelodau staff... Mae’r ail safle yn mynd i fyddin Tsieina - Byddin Rydd y Bobl (PLA) - sydd â 2.3 miliwn o filwyr. Ac ar y brig mae Adran Amddiffyn yr UDA sydd â gweithlu o 3.2miliwn.
Pwysau cynyddol ar wasanaethau
Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, rhoddwyd cynnig ar lawer o fentrau - ymddiriedolaethau ysbytai, deiliaid cronfeydd meddygon teulu, Galw GIG ayb - sydd wedi amcanu at leihau costau a gwneud y GIG yn fwy effeithlon. Ond, wrth iddo ysgwyddo mwy o bwysau, mae’n anodd gweld sydd fydd y GIG fyth yn gallu bodloni’r holl ofynion.
Yn 2007-2008, roedd cost rhedeg y GIG yn £44 biliwn, gan godi i £48 biliwn y flwyddyn ganlynol. Mae’n ymddangos bod y costau cynyddol hyn yn anghynaliadwy.