Datblygiadau yng ngofal cleifionFlorence Nightingale a Betsi Cadwaladr a nyrsio

Mae gofal cleifion wedi datblygu ac wedi arwain at welliannau o ran trin afiechydon a chlefydau. Ym mha ffordd mae gofal cleifion wedi gwella dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Dylanwad Florence Nightingale a Betsi Cadwaladr ar nyrsio

Er bod yna dwf yn nifer yr ysbytai ar ddechrau’r 19eg ganrif, yn gyffredinol roedd yr amodau i’r cleifion yn wael. Roedd y wardiau yn orlawn yn aml ac nid oedden nhw'n cael eu glanhau fawr ddim, felly roedd heintiau yn ymledu’n gyflym.

Nid oedd y nyrsys wedi cael eu hyfforddi, ac ystyrid bod nyrsio yn swydd i ferched oedd heb gael addysg. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd gan nyrsys enw drwg am feddwdod. Byddai disgrifiad Charles Dickens o’r nyrs, Mrs Gamp, yn ei nofel Martin Chuzzlewit wedi bod yn gyfarwydd i nifer o’i ddarllenwyr.

She was a fat old woman, this Mrs Gamp, with a husky voice and a moist eye… She wore a very rusty black gown, rather the worse for snuff, and a shawl and bonnet to correspond… The face of Mrs Gamp - the nose in particular - was somewhat red and swollen, and it was difficult to enjoy her society without becoming conscious of a smell of spirits.
Martin Chuzzlewit gan Charles Dickens

Nid oedd nyrsio yn waith i ferched parchus a byddai’n cymryd unigolyn penderfynol fel Florence Nightingale i newid y farn gyffredin.

Florence Nightingale

Llun ffurfiol o Florence Nightingale

Roedd Florence Nightingale yn dod o deulu cyfoethog. Yn 1851 aeth i’r Almaen i astudio fel nyrs, yn erbyn dymuniad ei theulu. Yn 1854, pan ddechreuodd y rhyfel yn erbyn Rwsia, aeth i ardal y Crimea i ofalu am filwyr oedd wedi eu hanafu.

Darganfyddodd Nightingale bod yr amodau yn ysbytai’r fyddin yn erchyll, a dechreuodd eu newid er gwell.

  • Roedd cleifion yn cael eu gwahanu yn ôl eu salwch.
  • Roedd gwelyau yn cael eu gosod ar wahân a gadawyd i awyr iach gael ei gylchredeg.
  • Gorfodwyd rheolau hylendid caeth, ee roedd cleifion yn cael eu golchi a dillad gwelyau yn cael eu newid yn rheolaidd.

Mewn chwe mis yn unig llwyddodd i leihau nifer y marwolaethau yn sylweddol. Roedd y milwyr yn ei hadnabod fel y 'Lodes a’i Lamp'.

Roedd y sylw yn y wasg yn ôl ym Mhrydain nid yn unig wedi achosi i Nightingale ddod yn enwog, ond hefyd amlygodd yr angen i ddiwygio ysbytai.

Graff a ddyfeisiwyd gan Florence Nightingale sy’n dangos achos marwolaeth ymysg milwyr yn ystod Rhyfel Crimea.
Image caption,
Graff a ddyfeisiwyd gan Florence Nightingale sy’n dangos achos marwolaeth ymysg milwyr yn ystod Rhyfel Crimea. Fe’i hanfonwyd at y llywodraeth er mwyn amlygu nifer uchel y marwolaethau o ganlyniad i glefydau

Pan ddychwelodd i Brydain yn 1856, aeth Nightingale ati i weddnewid nyrsio. Yn hytrach na bod yn lanhawyr a gofalwyr yn unig, roedd nyrsys yn cael eu hyfforddi i fod yn rhan hanfodol o ofal cleifion.

  • Gydag arian a godwyd drwy roddion cyhoeddus, sefydlodd yr ysgol hyfforddi nyrsys gyntaf yn Ysbyty St Thomas yn Llundain, gan roi ar waith y syniadau a ddatblygodd yn Crimea.
  • Cyhoeddodd lyfr yn 1859, Notes for Nursing, a werthodd gyda’r gorau.
  • Yn aml ymgynghorwyd â hi ynghylch dyluniad ysbytai newydd, a dywedodd y dylen nhw gynnwys y defnydd priodol o awyr iach, golau, cynhesrwydd, glendid, tawelwch, a dewis a darparu dietau priodol.

Roedd Nightingale wedi achosi i nyrsio fod yn broffesiwn parchus a bu iddi greu newid sylweddol mewn glendid a gofal cleifion mewn ysbytai.

Betsi Cadwaladr

Fel Florence Nightingale, roedd Betsi Cadwaladr yn nyrsio milwyr Prydain yn Crimea, ac mewn rhai ffyrdd mae ei stori hi hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Roedd yn un o 16 o blant o deulu dosbarth gweithiol ger y Bala yng ngogledd Cymru. Gadawodd ei chartref yn 14 oed ac yn 1815 ymwelodd â Waterloo gan weld dioddefaint y milwyr oedd wedi eu hanafu. Teithiodd o gwmpas y byd nifer o weithiau, yn datblygu sgiliau nyrsio ar ei ffordd.

Wrth ddychwelyd i Brydain, cafodd Cadwaladr ei hyfforddi i fod yn nyrs ac yn 1854, yn 65 oed, aeth i Crimea ac nid oedd ar delerau da â Nightingale. Roedd Cadwaladr yn credu bod Nightingale yn rhoi gormod o bwyslais ar reoleiddio a dim digon ar ddangos tosturi i gleifion.

Ar ôl symud o Scutari, Twrci, i Balaklava, Crimea, roedd Cadwaladr yn adnabyddus am yr oriau hir roedd hi’n eu gweithio a’r ffaith ei bod yn mynnu cadw briwiau’n lân. Hefyd ceisiodd gael gwared ar reolau oedd yn atal nyrsys rhag gwneud eu gwaith. Roedd yn casáu'r lefelau o fiwrocratiaeth yn Ysbytai Milwrol Prydain.

Daliodd glefyd colera a bu’n rhaid iddi ddychwelyd i Brydain oherwydd ei salwch yn 1855, a bu farw yn 1860. Mae un o’r pedwar o fyrddau iechyd yng Nghymru wedi’i enwi ar ei hôl hi i gydnabod ei gwaith.

Mary Seacole

Nyrs arall a wnaeth argraff yn Crimea oedd Mary Seacole. Defnyddiodd ei harian ei hun er mwyn teithio o Jamaica i Crimea, ble y’i gwelwyd yn aml yn mynd i faes y gad â’i bag meddygol.

Hefyd sefydlodd y Gwesty Prydeinig ger Balaklava i sicrhau darpariaeth a llety cyfforddus i swyddogion sâl ac yn gwella, a daeth i gael ei hadnabod fel y 'Fam Seacole'.