Elusennau gwirfoddol ac ysbytai gwaddoledig o'r 16eg i'r 18fed ganrif
Yn y 1530au, yn dilyn ei anghydfod â’r Pab, gorchmynodd Harri VIII i ddiddymu’r mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr. Arweiniodd hynny at effeithiau sylweddol ar ofal cleifion, oherwydd y mynachlogydd fu prif ddarparwyr gofal meddygol am nifer o ganrifoedd. Mewn rhai trefi a dinasoedd, camodd cynghorau i’r bwlch a chymryd y cyfrifoldeb am redeg ysbytai.
Yn Llundain, anfonodd awdurdodau’r ddinas ddeisebau at Harri VIII a’i fab, Edward VI, yn gofyn iddyn nhw gadw ysbytai’r ddinas yn agored. Bu i’r ddau frenin roi gwaddolTir neu eiddo, y gellid defnyddio eu rhenti i redeg ysbytai. ar gyfer rhedeg pum ysbyty, yn cynnwys St Bartholomew a St Thomas. Fel yr ysbytai canoloesol, roedd y rhain yn gofalu’n bennaf am dlodion gwael, oherwydd gallai pobl gyfoethog fforddio meddygon.
Er nad oedd gwaddolion tir brenhinol mor hael â hynny, a bod yr ysbytai bob amser yn brin o arian, roedd hyn yn ddatblygiad pwysig. Am y tro cyntaf, roedd y wladwriaeth, y brenin yn yr achos yma, wedi rhoi arian ar gyfer gofal meddygol.
Y tu allan i Lundain, roedd yn rhaid i gynghorau lleol ganfod gwaddolion er mwyn cadw eu hysbytai yn agored. Yn Norwich, fe gymrodd y cyngor gyfrifoldeb am glafdy mynachlog St Giles. Fe ddechreuodd gyda dim ond pedair merch yn darparu gofal elfennol, ond erbyn diwedd y 16eg ganrif, ychwanegwyd barbwr (oedd yn gwaeduY broses o waedu claf, naill ai drwy ddefnyddio gelod neu drwy dorri gwythïen. cleifion), llawfeddyg a gosodwr esgyrn i’w staff. Ond, nid oedd llawer o ardaloedd tlotach, yn cynnwys rhannau helaeth o Gymru, yr un mor ffodus. Yn 1665, dim ond pedwar ysbyty bach, a dim ond 36 gwely, oedd ar gael ar gyfer gogledd orllewin Cymru i gyd. I bob pwrpas, elusendyTŷ a ddarparwyd gan elusennau i bobl (yr henoed fel arfer) na allai ofalu amdanynt eu hunain mwyach. oedd y rhain ac nid oedd gan yr un ohonyn nhw feddyg preswyl.
Yr Oes Oleuedig
Y 18fed ganrif oedd Yr Oes OleuedigMudiad Ewropeaidd yn y 17eg a’r 18fed ganrif oedd yn hyrwyddo meddwl gwyddonol.. Roedd cymdeithasau meddygol, megis ym Mhrifysgol Caeredin yn 1737, yn annog dulliau gwyddonol newydd ac agorwyd nifer o ysbytai newydd. Creodd y Chwyldro Diwydiannol gyfoeth mawr ac fe wnaeth rhai dynion busnes cyfoethog, ee Thomas Guy, argraffwr yn Llundain, roi arian er mwyn agor ysbytai gwirfoddol newydd er mwyn trin y boblogaeth oedd yn tyfu.
Agorwyd 11 o ysbytai newydd yn Llundain a 46 arall ar hyd a lled y wlad, ee Ysbyty Addenbrookes yng Nghaergrawnt ac Ysbyty Brenhinol Bryste. Yn raddol, dechreuodd ysbytai newid o fod yn llefydd oedd ond yn darparu gofal elfennol i bobl wael, i lefydd oedd yn ceisio trin afiechydon a gwneud gwaith llawfeddygol syml, ee tynnu cerrig bustl a gosod esgyrn oedd wedi torri. Datblygodd rhai hefyd i fod yn ganolfannau ar gyfer hyfforddi meddygon a llawfeddygon. Fel arfer roedd y driniaeth am ddim. Ymddangosodd fferyllfeydd hefyd yn y 18fed ganrif, megis Fferyllfa Finsbury yn Llundain yn 1780, oedd yn darparu meddyginiaethau.
Ysbytai gwirfoddol yng Nghymru
Yng Nghymru, agorodd nifer o ysbytai gwirfoddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Agorodd Fferyllfa Gyffredinol a Noddfa ar gyfer Adfer Iechyd yn Ninbych yn 1807. Agorwyd ysbyty yn Abertawe yn 1817 ac yng Nghaerdydd yn 1837. Er mai Merthyr Tydfil oedd tref ddiwydiannol fwyaf Cymru yn 1830, ni chafodd ysbyty tan 1887.
Ysbytai arbenigol
Yn ogystal â’r ysbytai cyffredinol yma sefydlwyd nifer o ysbytai arbenigol yn ystod y 19eg ganrif. Efallai mai’r enwocaf yw Ysbyty Plant Great Ormond Street, a sefydlwyd yn 1852.
Hefyd, sefydlwyd ysbytai ynysu er mwyn trin clefydau heintus. Er mwyn amddiffyn Caerdydd rhag clefydau heintus a gariwyd ar longau, adeiladwyd ysbyty ynysu ar Ynys Echni yn 1883.