TebygolrwyddTebygolrwydd digwyddiadau wedi eu cyfuno

Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy’n dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.

Part ofMathemategTebygolrwydd

Tebygolrwydd digwyddiadau wedi eu cyfuno

Rwyt ti’n gwybod eisoes mai tebygolrwydd canlyniad ydy:

Ond dydy hi ddim yn hawdd canfod cyfanswm nifer y canlyniadau posib bob amser – yn enwedig pan fydd mwy nag un digwyddiad.

Question

Rwyt ti’n taflu \({2}\) ddarn ceiniog, unwaith yr un. Beth ydy cyfanswm nifer y canlyniadau posib pan maen nhw’n glanio, â naill ai’r pen neu’r gynffon i fyny?

Wrth restru canlyniadau posib, ceisia fod mor rhesymegol ag y medri di. Os byddi di’n ailadrodd neu’n anghofio unrhyw un ohonyn nhw, bydd yn effeithio ar weddill dy atebion.

Question

Teflir \({2}\) ddis tetrahedrol (pedairochrog).

Diagram graddfa tebygolrwydd

Copïa a chwblha’r tabl canlynol, sy’n dangos cyfanswm eu sgoriau:

Tabl i gyfrifo canlyniadau posib o daflu dau ddis tetrahedrol (pedairochrog)

a) Beth ydy’r canlyniad mwyaf tebygol?

b) Beth ydy’r tebygolrwydd mai \({3}\) fydd cyfanswm y sgoriau?

c) Beth ydy’r tebygolrwydd y bydd cyfanswm y sgoriau’n fwy na \({5}\)?

More guides on this topic