TebygolrwyddArolygon tebygolrwydd

Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy’n dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.

Part ofMathemategTebygolrwydd

Arolygon tebygolrwydd

Mae tebygolrwydd wedi ei seilio’n aml ar arolygon os nad ydy’n bosib cyfrifo tebygolrwydd fel arall. Yn yr achosion hyn rwyt ti’n cael mesur mwy cywir o debygolrwydd wrth seilio dy gyfrifiad ar nifer fawr o ganlyniadau.

Question

Erthygl bapur newydd

Mae Aled yn llunio adroddiad ar gyfer ei bapur lleol. Testun ei erthygl ydy ‘gwyliau’.

Fel rhan o’i adroddiad mae’n penderfynu holi \({10}\) o’i ffrindiau a oes yn well ganddyn nhw wyliau carafanio neu wyliau gwersylla. Mae \({7}\) o’r \({10}\) yn dweud bod yn well ganddyn nhw garafanio, felly mae Aled yn ysgrifennu’r pennawd dramatig sydd i’w weld uchod.

Beth sydd o’i le gyda dull Aled?

More guides on this topic