TebygolrwyddCanfod tebygolrwydd

Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy’n dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.

Part ofMathemategTebygolrwydd

Canfod tebygolrwydd

Pan fyddi di’n taflu dis, mae chwe chanlyniad posib. Gall y dis ddangos naill ai \({1},~{2},~{3},~{4},~{5}\) neu \({6}\).

Ond sawl ffordd bosib sydd yna o gael eilrif? Mae tri phosibilrwydd: \({2},~{4}\) a \({6}\).

Y tebygolrwydd o gael eilrif ydy \(\frac{3}{6}\) \((=\frac{1}{2}\) neu \({0.5}\) neu \({50}\%)\).

Question

Sawl canlyniad sydd yna i’r arbrofion canlynol? Rhestra bob canlyniad posib ar eu cyfer.

a) Taflu ceiniog

b) Dewis losinen o fag sy’n cynnwys \({1}\) losinen goch, \({1}\) las, \({1}\) wen ac \({1}\) ddu.

c) Dewis diwrnod o’r wythnos ar hap.

Question

Mae Angharad yn ysgrifennu llythrennau’r gair ‘MATHEMATEG’ ar gardiau ar wahân (cofia mai un llythyren ydy TH) ac yn eu rhoi nhw mewn bag. Wedyn mae hi’n tynnu cerdyn allan ar hap.

Diagram yn dangos ysgrifennu llythrennau Mathemateg ar gardiau ar wahân

Beth ydy’r tebygolrwydd y bydd Angharad yn dewis y llythyren A?

More guides on this topic