Amlder cymharolAmcangyfrif tebygolrwydd

Wrth daflu ceiniog, mae siawns gyfartal o gael pen neu gynffon. Ond mewn rhai achosion, yn lle defnyddio canlyniadau sydd yr un mor debygol mae angen defnyddio’r hyn a elwir yn ‘amlder cymharol’.

Part ofMathemategTebygolrwydd

Amcangyfrif tebygolrwydd

Er enghraifft, petaet ti’n gweld \({100}\) o geir yn pasio ac yn canfod bod \({23}\) ohonyn nhw’n goch, yr amlder cymharol ydy \(\frac{23}{100}\).

Cywirdeb

Bag yn cynnwys 3 fferen goch a 7 fferen las

Mae bag yn cynnwys \({3}\) losin coch a \({7}\) losin glas.

Cymerodd Tom losin o’r bag, nodi ei liw ac wedyn ei roi’n ôl.

Gwnaeth hyn \({10}\) gwaith a chanfod ei fod wedi cael losin coch ar \({4}\) achlysur, hy yr amlder cymharol oedd \(\frac{4}{10}\).

Wedyn gwnaeth yr un arbrawf \({10}\) gwaith eto, a chyfuno’i ganlyniadau â’r prawf cyntaf a chanfod ei fod wedi cael losin coch ar \({5}\) achlysur allan o \({20}\), hy yr amlder cymharol oedd \(\frac{5}{20}\).

Wrth gwrs, gan mai bwriad Tom oedd amcangyfrif cyfran y losin coch yn y bag, bysai wedi cael yr ateb cywir drwy gymryd y losin o'r bag a pheidio eu rhoi yn ôl. Yn amlwg, nid yw hyn yn ymarferol ar gyfer niferoedd mawr o losin.

Daliodd Tom ati fel hyn gan gofnodi ei ganlyniadau wedi eu cyfuno ar ôl pob \({10}\) treial a’u dangos ar y graff isod:

Diagram o ddau ddis tetrahedrol

Mae’r graff yn dangos bod yr amlder cymharol yn gwella, hy yn agosáu at y gwir debygolrwydd wrth i nifer y treialon gynyddu.

More guides on this topic