Etholiad Cyffredinol 1945
Galwyd etholiad ar gyfer 5 Gorffennaf 1945. Daeth y pleidleisio i ben ar 19 Gorffennaf er mwyn rhoi cyfle i filwyr o dramor gael pleidleisio. Y ddwy brif blaid oedd Plaid Lafur Clement Atlee a Cheidwadwyr Winston Churchill. Erbyn hyn roedd y Blaid Ryddfrydol yn gwanio.
Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf ym Mhrydain ers 1935. Fe bleidleisiodd tua 24 miliwn o bobl gyda nifer fawr yn pleidleisio am y tro cyntaf.
Roedd y canlyniad yn syndod i nifer o bobl. Roedd Winston Churchill yn arweinydd llwyddiannus adeg y rhyfel ac yn arwr. Yn amlwg, roedd nifer o’r arsyllwyr wedi tybio y byddai Churchill yn fuddugol oherwydd ei rôl yn ystod y rhyfel a’i boblogrwydd. Ond, cafodd Llafur fuddugoliaeth ysgubol.

Rhesymau dros fuddugoliaeth etholiadol 1945
Efallai fod pobl Prydain yn dymuno gweld cyfnod o newid a’u bod yn credu y byddai’r Blaid Lafur yn cynnig gobaith ar ôl Dirwasgiad y 1930au. Roedd y Ceidwadwyr wedi tanamcanu’r teimlad yma. Er cymaint oedd poblogrwydd Churchill, roedd y Blaid Geidwadol yn cael anhawster denu cefnogwyr newydd.
Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnal ymgyrch ddiffygiol. Drwy ganolbwyntio ar rôl Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd, nid oedd hynny’n apelio at bleidleiswyr oedd yn dymuno symud ymlaen ar ôl y rhyfel. Oherwydd mai hon oedd yr etholiad gyntaf ers 1935, roedd nifer anarferol o uchel o bobl yn pleidleisio am y tro cyntaf. Nid oedd y slogan Help him finish the 'job'
yn gwneud fawr ddim i leddfu pryderon pleidleiswyr.
Roedd yna hyder y byddai Llafur yn sicrhau newid gwleidyddol ac economaidd. Drwy addo cofleidio a gweithredu ar Adroddiad BeveridgeAdroddiad gan y llywodraeth a gyflwynwyd gan Syr William Beveridge i senedd Prydain yn Nhachwedd 1942, a arweiniodd at sefydlu system o nawdd cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ôl y rhyfel. roedden nhw’n gallu ennill pleidleiswyr.
Roedd Llafur yn elwa o’r newid agwedd tuag at y system dosbarthiadau cymdeithasol a symudedd cymdeithasol oedd wedi ymddangos o ganlyniad i chwalu traddodiadau yn ystod y rhyfel, yn ogystal â chred gynyddol mewn cyfleoedd i bawb.
Roedd llawer yn beio’r Blaid Geidwadol am y Dirwasgiad diweddar ac am fethu â gwrthwynebu Adolf Hitler yn ystod dyhuddiadIldio i ofynion gwlad arall er mwyn osgoi rhyfel. y 1930au. Roedd ymgyrch y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar y materion a’r gwendidau hyn.
Hefyd, gwnaeth Churchill y camgymeriad o gymharu sosialaeth Llafur ag unbenaethau gormesol, a chyfeiriodd hyd yn oed at y GestapoHeddlu cudd y Natsïaid..
Defnyddiodd y Daily Express, oedd yn cefnogi’r Ceidwadwyr, y pennawd ‘GESTAPO IN BRITAIN IF SOCIALISTS WIN’ ac roedd hynny’n codi braw ar nifer o bleidleiswyr.
Roedd Atlee yn deall y dyhead am newid ym Mhrydain, ac adlewyrchir hynny yn y slogan Let us face the future together
. Roedd addo gwladwriaeth lesGwladwriaeth (neu wlad) lle mae'r llywodraeth yn darparu budd-daliadau lles fel addysg, gofal iechyd a thaliadau diweithdra i'w phoblogaeth am ddim o’u defnyddio, er ei fod yn cael ei dalu gan drethi cyffredinol., ee gofal iechyd am ddim ac addysg, gwell tai a chyflogau uwch, yn seiliedig ar Adroddiad Beveridge, a gwladoli Banc Lloegr, glo, pŵer, trafnidiaeth a’r diwydiannau haearn a dur, yn denu pleidleiswyr.
