Bywyd ar ôl rhyfelDadfyddino

Roedd 1945 yn foment allweddol yn hanes Prydain. Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd yn uniongyrchol ar newidiadau economaidd a gwleidyddol. Pa mor anodd oedd yr amgylchiadau ym Mhrydain yn 1945?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Dadfyddino

Yn 1945, roedd tua 5 miliwn o ddynion a merched yn y lluoedd arfog. Roedd hi’n her dod â’r bobl yma’n ôl i fywyd sifilaidd, a elwid yn ‘civvy street’.

Grŵp o ddynion yn gwenu ac yn cario bagiau dyffl. Mae rhai mewn lifrai ac eraill mewn dillad sifilaidd.
Image caption,
Canolfan dadfyddino yn Swydd Gaerhirfryn, 1945

Sut oedd dadfyddino yn gweithio?

Ernest Bevin oedd prif bensaer y cynllun, a dechreuodd chwe wythnos ar ôl i’r rhyfel ddod i ben. Daeth y cynllun i rym ar 18 Mehefin 1945. Dros y deunaw mis nesaf, cafodd 4.3 miliwn o ddynion a menywod eu rhyddhau o wasanaeth milwrol.

Roedd personél milwrol yn cael eu rhyddhau mewn trefn, yn seiliedig ar hyd eu gwasanaeth a’u hoedran. Roedd milwyr â rolau allweddol a sgiliau allweddol fyddai o fudd i’r DU yn cael eu rhyddhau cyn eu hamser. Roedd nifer yn cael eu cythruddo oherwydd arafwch y broses o ryddhau, ac arweiniodd hynny at nifer o achosion disgyblu.

Roedd pobl yn wynebu amryw o broblemau wrth ddychwelyd i fywyd sifilaidd. Roedd nifer o gartrefi a llefydd gwaith wedi eu dinistrio, oedd yn golygu bod llawer o bobl yn cael problemau dod o hyd i waith neu setlo’n ôl i fywyd teuluol normal. Roedd niferoedd yr ysgariadau yn uchel ar ôl y rhyfel, a phroseswyd dros 60,000 o geisiadau yn 1947.