Ecosystemau – llygredd a chylchredau maetholionY gylchred nitrogen

Mae llygredd yn gallu cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Gall bodau dynol gyflwyno cemegion i'r amgylchedd drwy cadwynau bwyd, gan achosi problemau fel biogynyddiad ac ewtroffigedd.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Y gylchred nitrogen

Mae nitrogen mewn celloedd yn cynnwys proteinau. Mae nitrogen o’r aer yn cael ei drawsnewid yn hydawdd y mae gwreiddiau planhigion yn gallu eu hamsugno. Mae’n ffurfio rhan o gyfansoddion nitrogen yn y planhigion, ac yna’n cael ei drosglwyddo o un i'r nesaf. Mae'n cael ei ddychwelyd i’r atmosffer fel nwy nitrogen. Dyma'r gylchred nitrogen.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 5, Cam un y gylchred nitrogen, Cam un y gylchred nitrogen Sefydlogiad

Cam un – sefydlogiad

Mae tua 78 y cant o’r aer yn nwy nitrogen. Fodd bynnag, mae nitrogen yn rhy anadweithiol i gael ei ddefnyddio’n uniongyrchol gan blanhigion i wneud protein. Rhaid iddo gael ei drawsnewid yn ïonau hydawdd, megis . Mae mewn a bacteria sy’n byw yn rhydd yn y pridd yn gallu gwneud hyn. Mae mellt yn gallu trawsnewid nwy nitrogen yn nitradau hefyd.

Cam dau – amsugno i mewn i’r gwreiddiau a’u hymgorffori i mewn i blanhigion

Mae planhigion yn amsugno nitradau o’r pridd ac yn defnyddio’r rhain i wneud proteinau.

Cam tri – symud ar hyd cadwynau bwyd ac ysgarthiad

Pan mae anifail yn bwyta planhigyn, mae nitrogen o broteinau’r planhigyn yn troi’n broteinau yn yr anifail. Mae ysgarthu (mewn troeth anifeiliaid) yn rhyddhau cyfansoddion nitrogenaidd i'r pridd. Mae’r bacteria yn y pridd yn gwneud ensym o’r enw sy'n trawsnewid yr wrea hwn yn . Mae yn trawsnewid yr amonia yn nitradau, ac mae planhigion yn gallu amsugno'r rhain.

Cam pedwar – anifeiliaid yn marw

Mae yn dadelfennu'r protein yng nghyrff marw anifeiliaid a phlanhigion, gan ei drawsnewid yn amonia. Mae bacteria nitreiddio yna'n trawsnewid yr amonia yn nitraid ac yna'n nitradau fel bod planhigion yn gallu eu hamsugno nhw eto.

Cam pump – rhyddhau i’r atmosffer

Mae yn y pridd yn torri i lawr nitradau ac yn dychwelyd nwy nitrogen i’r aer. Mae hyn yn digwydd mewn amodau . Mae ffermwyr yn ceisio atal oherwydd mae planhigion yn tyfu orau os oes digonedd o nitradau yn y pridd iddynt eu defnyddio i wneud y proteinau sydd eu hangen arnynt i dyfu.

Mae ffermwyr yn gwneud y canlynol er mwyn atal dadnitreiddiad.

  • Aredig y pridd yn rheolaidd i annog amodau aerobig (cael ocsigen i mewn).
  • Draenio unrhyw fannau sydd dan ddŵr.
  • Cylchdroi cnydau drwy blannu bob rhai blynyddoedd. Mae gan y rhain wreiddgnepynnau sy'n llawn bacteria sefydlogi nitrogen sy'n gallu trawsnewid nwy nitrogen yn uniongyrchol o'r aer i ffurfio cyfansoddion nitrogenaidd i'r planhigyn eu defnyddio, sy'n cynyddu ffrwythlondeb y pridd.

Gwylia'r fideo hwn sy'n dangos ffordd o gadw pridd yn ffrwythlon (cynnwys Saesneg).