NaratifCofiant

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sy'n dangos naratif. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Cofiant

Beth yw cofiant?

Cofiant yw hanes bywyd unigolyn wedi’i ysgrifennu gan rywun arall (mae hunangofiant yn hanes unigolyn yn ei eiriau ei hun).

Iaith ac arddull

  • Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
  • Mae angen i ti ysgrifennu yn y trydydd person.
  • Mae angen dweud beth sydd wedi digwydd yn drefnus – dechrau ar y dechrau a gorffen ar y diwedd.
  • Mae angen i ti ateb y cwestiynau – beth? pyd? ble? sut? pwy?
  • Defnyddia eiriau ac ymadroddion er mwyn cydfynd a steil y pwyntiau eraill.

Enghraifft o gofiant Steve Jobs 1955 – 2011

Dyma ddyn a osododd ei stamp ar fyd cyfrifiaduron, ar fyd ffilm, ar fyd cerddoriaeth ac ar fyd y ffôn. Roedd yn un o’r rhai gychwynnodd gwmni Apple yn yr 1970au, mewn garej yn California. Ond yn 1985 aeth pethau’n ddrwg rhyngddo a bwrdd rheoli’r cwmni a chafodd ei ddiswyddo. Bu hyn yn garreg filltir yn ei hanes ac fe elwodd o’r profiad. Cychwynnodd gwmni arall a bu’n gweithio i Pixar Animations Studios. Pixar oedd yn gyfrifol am y ffilmiau llwyddiannus a phoblogaidd Toy Story, Finding Nemo a The Incredibles.

Fedrwch chi ddim peidio â’i edmygu. Llwyddodd i drawsnewid Apple a’i wneud yn un o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y byd. Llwyddodd i lansio'r iPhone a’r iPad ac yntau’n dioddef o ganser y pancreas. Roedd dyfalbarhad yn perthyn i Steve Jobs. Roedd yn dal ati. Roedd yn fodlon ailddechrau os oedd pethau yn mynd o chwith.

Oedd, roedd Steve Jobs yn dipyn o ddyn. Roedd yn athrylith.

(Byd Bach – Esyllt Maelor)

Ffynhonnell: CAA

Ymarfer: beth am uwcholeuo’r berfau trydydd person amser y gorffennol.