NaratifStori fer

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sy'n dangos naratif. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Stori fer

Beth yw stori fer?

Gan amlaf, mae stori fer yn disgrifio rhywbeth sydd wedi digwydd go iawn neu yn y dychymyg. Mae'n fyr, hynny yw nid yw mor hir â nofel. Gellir cael straeon byrion o fathau gwahanol, er enghraifft antur, dirgelwch, ditectif neu ffantasi.

Rhaid nodi:

  • ble mae’r stori’n digwydd
  • pryd mae’r stori’n digwydd
  • beth sy’n digwydd
  • pwy yw’r cymeriadau

Iaith ac arddull

  • Rwyt ti angen ysgrifennu yn y gorffennol.
  • Rwyt ti’n ysgrifennu yn y person cyntaf/trydydd person.
  • Mae angen defnyddio amrywiaeth o dechnegau arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, personoli neu drosiadau.
  • Cofia gyfeirio at y synhwyrau.
  • Rhaid sicrhau bod agoriad diddorol, uchafbwynt a chlo addas.
  • Rhaid i ti amrywio dechrau brawddegau.

Question

Ysgrifenna y brawddegau hyn yn y gorffennol:

agor + fi

gweld + fi

mynd + fi

cael + fi

gweiddi + fi

cerdded + ef/hi

edrych + ef/hi

ymlwybro + ef/hi

syllu + ef/hi

aros + ef/hi

Dyma enghraifft o baragraff agoriadol stori fer

Y Prawf – Gwen Redvers Jones

“Cer, paid â bod yn fabi. Sgen ti’m ofn mynwent, siŵr?” chwarddodd Alun yn gas ar ben ei ffrind am hanner nos ar Noson Calan Gaeaf. Cerddodd Rhodri drwy’r giât fochyn a arweiniai i’r fynwent. Uwch ei ben roedd tylluan yn hwtian ac ystlumod yn hedfan. Disgleiriodd y lleuad yn wyn ar farrug y cerrig beddau. Crensiai ei draed yn annaturiol o uchel ar y cerrig mân ar y llwybr. Clywodd gi yn cyfarth yn y pellter. Caeodd y tywyllwch o’i amgylch. Roedd hi fel bol buwch. Crynai. Gallai glywed ei galon yn curo fel pe bai’n ceisio dianc o’i gorff. Cerddodd yn ei flaen at ddrws mawr pren yr eglwys...

Gweithgaredd – cer ati i orffen y stori uchod.