Hunangofiant
Beth yw hunangofiant?
Mewn hunangofiant mae’r awdur yn adrodd hanes diddorol ei fywyd. Wrth ddisgrifio rhywbeth sydd wedi digwydd mae’r awdur yn dwyn i gof rhyw brofiad.
Iaith ac arddull
- Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y person cyntaf.
- Mae angen dweud beth sydd wedi digwydd yn drefnus – dechrau ar y dechrau a gorffen ar y diwedd.
- Mae angen i ti ateb y cwestiynau – Beth? Pryd? Ble? Sut? Pwy?
- Defnyddia eiriau ac ymadroddion er mwyn cydfynd â steil y pwyntiau eraill.
Enghreifftiau o frawddegau mewn hunangofiant
Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n mwynhau...
Es i i ysgol gynradd ac rwy’n cofio...
Fy hoff fwyd pan oeddwn i’n ifanc oedd...
Un o’r partïon pen-blwydd dwi’n gallu ei gofio yw...
Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n mwynhau gwisgo...
Yr ofn mwyaf ges i pan oeddwn i’n blentyn oedd...
Dw i’n cofio cael stŵr am...
Yr anrheg Nadolig gorau dwi’n cofio ei gael oedd...
Un o’r pethau mwyaf doniol ddigwyddodd i fi pan oeddwn i’n fach oedd...
Un lle arbennig roeddwn i’n hoffi mynd iddo pan oeddwn i’n blentyn oedd...
Y peth gorau am fy mhlentyndod oedd...
Tasg – gorffenna'r brawddegau hyn gan drafod dy fywyd di. Defnyddia dechnegau arddull i wneud dy waith yn ddiddorol.
Enghraifft o hunangofiant glöwr
Roedd uchelgais gen i erioed i fod yn löwr ac roeddwn i'n sicr nawr fod fy nghyfle wedi dod. Er gwaethaf protestio Mam, cefais swydd gan Mr Arthur David Thomas, M E, rheolwr Pwll y Gelli. Dywedodd wrthaf fi am fynd i weld y prif amserwr a ychwanegodd fy enw at weithlu'r pwll a chefais ddau nodyn ganddo, y naill i geidwad y lampau er mwyn derbyn lamp a siec lampau a'r llall i'r goruchwyliwr dan ddaear.
[Ffynhonell: BBC Cymru]