Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sy'n dangos naratif. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.
Mewn tŷ anniben, llawn chwerthin, mae tri o ffrindiau yn cydfyw. Yn y ffilm hon, mae Cath yn penderfynu ysgrifennu ‘blog stori’ ond mae arni angen cymorth ar sut i ysgrifennu naratif.