Walkers' Wood gan Myrddin ap DafyddNeges ac agwedd y bardd

Rydym yn byw mewn gwlad brydferth dros ben ac mae’r prydferthwch hwn yn denu twristiaid lu. Trafod dylanwad twristiaeth ar ein gwlad a’n hiaith a wna Myrddin ap Dafydd yn y gerdd hon.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd

Bardd gwladgarol yw Myrddin ap Dafydd, ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y gerdd Walkers’ Wood yn ei ddicter tuag at dwristiaid sy’n newid yr ardal er gwaeth. Mae’n disgrifio ei hun fel dyn anfodlon ar adegau ac mae’r anfodlonrwydd hwn yn amlygu ei hun pan mae’n gosod pellter rhyngddo ef a’r cerddwyr trwy eu galw’n ‘rhai’ yn y geiriau Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.

Llwybr trwy goedwig yn ardal Betws-y-coed
Image caption,
Harddwch naturiol Betws-y-coed

Er mwyn cyfleu ei ddicter a’i ddirmyg am y twristiaid sy’n gadael llanast ar eu holau, mae’n defnyddio geiriau Saesneg, ‘Betws Guide’ a ‘crisps’. Mae’r defnydd hwn o’r Saesneg yn darlunio pa mor fregus yw ein hiaith a’n diwylliant dan fygythiad mewnlifiad parhaus o bobl ddi-Gymraeg sydd ddim o Gymru. Nid yw twristiaid yn dangos diffyg parch at y Gymraeg trwy ddefnyddio’r enw ‘Walkers’ Wood’ yn hytrach na ‘Choed Llugwy’ ac mae’r bardd yn gweld hynny. Nid ydynt yn dangos parch at y wlad chwaith, maen nhw’n gollwng y cwdyn creision.

Serch hynny, gallwn ddadlau bod y mab yn cynrychioli gobaith i’r genhedlaeth nesaf, sy’n awgrym o sicrwydd a hyder i barhad Cymru a’r Gymraeg. Wedi’r cwbl, mae’n llwyddo i drosglwyddo etifeddiaeth werthfawr i’w fab trwy gyflwyno enwau hardd y coed iddo yn y Gymraeg. Mae perthynas agos y tad a’r mab yn cael ei phwysleisio wrth i’r bardd ailadrodd y gair ‘Dad’ ar ddiwedd pob cwestiwn y mae’r mab yn ei ofyn.

Question

Cymharwch y gerdd hon a’r gerdd Enwau gan Wyn Owens (Fesul Gair). Trafodwch agwedd y bardd yn y ddwy gerdd.