Dadansoddi Walkers' Wood
Sgwrs naturiol rhwng tad a mab wrth fynd am dro yw’r gerdd. Mae’r mab yn holi cwestiynau am yr hyn mae’n ei weld o’i amgylch ar ddechrau pob pennill ac yna mae’r tad yn ei ateb yn ail hanner y penillion. Adlewyrchir natur chwilfrydigEisiau gwybod mwy, holi cwestiynau. y mab yn y cwestiynau niferus yma. Mae’r ffaith fod y bardd yn dewis odli gair Cymraeg ‘Taid’ gyda’r gair Saesneg ‘Guide’ yn pwysleisio dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg. Mae’n eironig bod y lle yn cael ei alw’n ‘Walkers’ Wood’ yn hytrach na ‘Coed Llugwy’ yn y llyfryn oherwydd dyma brawf pellach o ddylanwad negyddol y twristiaid ar yr ardal. Mae’r enw ‘Coed Llugwy’ yn ein hatgoffa mai natur a roddodd yr enw ar y lle hwn yn wreiddiol ond bod rhywun, trwy geisio cyfieithu’r enw hyfryd hwn, wedi tynnu sylw at ddylanwad dyn ar yr ardal yn yr enw ‘Walkers’ Wood’. Mae cyferbyniad rhwng y ddau enw yma ac mae’r enw Saesneg yn un y gellid ei roi ar unrhyw goedwig rhywle yn y byd. Nid yw’r lleoliad a’i hanes, yn yr un modd â’r Gymraeg, o bwys i’r sawl a ddewisodd yr enw ‘Walkers’ Wood’.
Mae dylanwad y Saesneg wedi treiddio i eirfa’r mab hefyd, mae’n defnyddio’r gair ‘crisps’ yn hytrach na chreision yn y gyffelybiaethPam fod eu lliw r’un fath â crisps yn awr?
.
Gan gymryd delwedd y creision gan ei fab, mae’r bardd yn cyfleu holl ryfeddod lliwiau’r hydref ar y coed yn y trosiad Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was.
Mae llais diniwed plentyn i’w glywed yn glir yn y personoli celfydd a geir yn y llinell A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi
. Mae’r bardd, heb os, wedi trosglwyddo ei ddawn greadigol i’w fab. Aiff y bardd yn ei flaen i restru enwau nifer o’r coed sy’n gyfoeth o enwau hardd - ‘y gollen’, ‘y ffawydd’ a’r ‘dderwen’. Coed sy’n perthyn i’r ardal yw’r rhain i gyd, coed sydd wedi tyfu yn yr ardal ers canrifoedd. Mae hyn yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o dristwch fod yr ardal dan gymaint o ddylanwad estron.
Wrth addysgu’r mab am enwau’r coed o’u cwmpas fe ddaw’r mab ar draws pecyn creision gwag ar y llawr; wedi’i adael ar ôl gan ymwelwyr a fu’n crwydro yma, mae’n debyg. Gwrthrych estron yw’r pecyn creision yn difetha prydferthwch naturiol y goedwig. Yn ogystal ag achosi i bobl ddefnyddio enw Saesneg ar gyfer y lle, a’r ffaith eu bod yn cael dylanwad ar iaith ieuenctid gogledd Cymru, maen nhw hefyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd drwy ollwng sbwriel. Mae ystyr deuol i’r gair ‘Walkers’ yn y gerdd, mae’n cyfeirio at y cerddwyr sy’n gollwng sbwriel yn y goedwig ac yn cyfeirio at y cwmni creision enwog.
More guides on this topic
- Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Cymharu dwy gerdd
- Nodweddion arddull
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd