Metelau alcalïaidd Grŵp 1Esbonio adweithedd

Mae elfennau Grŵp 1, sef y metelau alcalïaidd, i gyd yn adweithio'n egnïol â dŵr i gynhyrchu hydoddiant alcalïaidd.

Part ofCemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Esbonio adweithedd

Mae gan elfennau Grŵp 1 briodweddau tebyg oherwydd adeiledd electronig eu – mae gan bob un un yn y plisgyn allanol.

Tabl yn dangos ffurfwedd electronau a diagram atomig elfennau grŵp 1 lithiwm, sodiwm a photasiwm.

Esbonio tueddiadau [Haen uwch yn unig]

Mewn adwaith, bydd atom o elfen Grŵp 1 yn ffurfio ag un wefr bositif. Er enghraifft, ar gyfer sodiwm yn ffurfio ïon sodiwm:

Na → Na+ + e

Mae newid fel hwn, lle mae electron yn cael ei golli, yn enghraifft o .

Mae gan yr ïonau sy’n ffurfio adeiledd electronig sefydlog, fel o Grŵp 0.

Tabl yn dangos ffurfwedd electronau a diagram atomig ïonau elfennau grŵp 1 lithiwm, sodiwm a photasiwm.

Mae adweithedd elfennau Grŵp 1 yn cynyddu wrth fynd i lawr y grŵp oherwydd:

  • mae’r atomau’n mynd yn fwy
  • mae’r electron allanol yn mynd yn bellach oddi wrth y niwclews
  • mae’r atyniad rhwng y niwclews a’r electron allanol yn mynd yn wannach – felly mae hi’n haws colli’r electron