Adweithiau metelau alcalïaidd ag ocsigen
Pan rydyn ni’n torri’r metelau alcalïaidd, maen nhw’n edrych yn llwyd sgleiniog i ddechrau ond maen nhw’n sydyn yn troi’n bŵl a gwyn wrth adweithio ag ocsigen yn yr aer. Tarneisio yw hyn.
Lithiwm
Mae lithiwm yn tarneisio’n araf oherwydd ei adwaith cymharol araf ag ocsigen.
lithiwm + ocsigen → lithiwm ocsid
4Li(s) + O2(n) → 2Li2O(s)
Sodiwm
Mae sodiwm yn tarneisio’n gyflymach na lithiwm, sy’n fwy o dystiolaeth bod sodiwm yn fwy adweithiol na lithiwm.
sodiwm + ocsigen → sodiwm ocsid
4Na(s) + O2(n) → 2Na2O(s)
Potasiwm
Mae potasiwm yn tarneisio mor gyflym, mae’n anodd gweld mai metel sgleiniog yw potasiwm mewn gwirionedd. Mae hyn yn fwy o dystiolaeth bod potasiwm yn fetel mwy adweithiol na lithiwm a sodiwm.
potasiwm + ocsigen → potasiwm ocsid
4K(s) + O2(n) → 2K2O(s)
Hylosgi
Mae’r metelau alcalïaidd hefyd yn gallu cael eu tanio a llosgi. Pan mae unrhyw sylwedd yn llosgi mewn ocsigen, enw’r adwaith yw hylosgiad. Potasiwm (lelog) sy’n llosgi’n fwyaf egnïol ac yna sodiwm (oren-melyn) ac yna lithiwm (coch), fel byddet ti’n ei ddisgwyl.