Ffyrdd o ddefnyddio amonia
Cynhyrchu gwrteithiau
Un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n defnyddio amonia yw i gynhyrchu gwrteithiau. Mae’r gwrteithiau mwyaf effeithiol yn cynnwys nitrogen oherwydd mae angen nitrogen ar blanhigion i gynhyrchu proteinau. Mae ffosfforws a photasiwm hefyd yn elfennau hanfodol sydd i'w canfod yn aml mewn gwrteithiau. Mae manteision ac anfanteision wrth ddefnyddio gwrteithiau artiffisial.
Manteision
- Cynyddu twf cnydau.
- Cynyddu cynnyrch cnydau.
- Gwella ansawdd pridd.
Anfanteision
- Achosi ewtroffigedd.
- Achosi syndrom babanod glas.
- Troi’r pridd yn asidig.
Halwynau amoniwm yw llawer o wrteithiau. Gallwn ni hefyd eu gwneud nhw o amoniwm hydrocsid (hydoddiant amonia). Os ydyn ni’n defnyddio amoniwm hydrocsid, mae’r adwaith niwtraleiddioGwneud rhywbeth yn niwtral drwy gael gwared ar natur asidig neu alcalïaidd. hefyd yn cynhyrchu dŵr.
Amonia + asid nitrig → amoniwm nitrad
NH3 + HNO3 → NH4NO3
Amoniwm hydrocsid + asid nitrig → amoniwm nitrad + dŵr
NH4OH + HNO3+ → NH4NO3 + H2O
Amonia + asid sylffwrig → amoniwm sylffad
2NH3 + H2SO4 → (NH4)2SO4
Amoniwm hydrocsid + asid sylffwrig → amoniwm sylffad + dŵr
2 NH4OH + H2SO4 → (NH4)2SO4 + H2O