Adweithiau cildroadwy [TGAU Cemeg yn unig]
Mae llawer o adweithiau, fel llosgi tanwydd, yn anghildroadwy – maen nhw’n cwblhau a dydy hi ddim yn hawdd eu gwrthdroi nhw. Mae adweithiau cildroadwy’n wahanol. Mewn adwaith cildroadwy, mae’r cynnyrchSylwedd sy’n cael ei ffurfio mewn adwaith cemegol. yn gallu adweithio i gynhyrchu’r adweithyddSylwedd sy'n adweithio â sylwedd arall i ffurfio cynhyrchion yn ystod adwaith cemegol. gwreiddiol eto.
Wrth ysgrifennu hafaliadau cemegol adweithiau cildroadwy, dydyn ni ddim yn defnyddio’r saeth un ffordd arferol. Yn lle hynny, rydyn ni’n defnyddio dwy saeth â hanner pen saeth yr un (⇌). Mae'r saeth uchaf yn pwyntio i’r dde, a’r saeth isaf yn pwyntio i’r chwith.
Er enghraifft:
amoniwm clorid ⇌ amonia + hydrogen clorid
NH4Cl(s) ⇌ NH3(n) + HCl(n)
Mae’r hafaliad yn dangos bod amoniwm clorid (solid gwyn) yn gallu dadelfennu i ffurfio amonia a hydrogen clorid. Mae hefyd yn dangos bod amonia a hydrogen clorid (nwyon di-liw) yn gallu adweithio i ffurfio amoniwm clorid unwaith eto.
Mae’r sioe sleidiau hon yn dangos adwaith cildroadwy sy’n cynnwys copr(II) sylffad anhydrus gwyn a chopr(II) sylffad hydradol glas. Yr hafaliad ar gyfer hyn yw:
copr(II) sylffad anhydrus + dŵr ⇌ copr(II) sylffad hydradol
CuSO4(s) + 5H2O(h) ⇌ CuSO4·5H2O(s)
Image caption, Adwaith cildroadwy
1. Llosgydd Bunsen yn gwresogi powlen o gopr(II) sylffad hydradol
Image caption, 2. Dŵr yn cael ei yrru i ffwrdd, gan adael copr(II) sylffad anhydrus
Image caption, 3. Diffodd y llosgydd ac ychwanegu dŵr gan ddefnyddio pibed
Image caption, 4. Mae’r bowlen nawr yn cynnwys copr(II) sylffad hydradol eto
1 of 4
Sylwa fod angen gwres i dynnu dŵr o gopr(II) sylffad hydradol, felly mae hon yn broses endothermig. Mae’r broses wrthdro (ychwanegu dŵr at gopr(II) sylffad anhydrus) yn broses ecsothermig. Mae’r egni sy’n cael ei amsugno yn y blaenadwaith yn hafal i’r egni sy’n cael ei ryddhau yn yr ôl-adwaith.
Rydyn ni’n defnyddio’r adwaith rhwng copr(II) sylffad anhydrus a dŵr fel prawf am ddŵr. Mae’r solid gwyn yn troi’n las ym mhresenoldeb dŵr.
Mae adwaith cildroadwy tebyg yn digwydd rhwng cobalt(II) clorid anhydrus (sy’n las) a dŵr i gynhyrchu cobalt(II) clorid hydradol (sy’n binc). Mae gwresogi cobalt(II) clorid hydradol pinc yn gwneud iddo droi’n las.