Adweithiau cildroadwy, amonia a phroses HaberAmonia

Mae llawer o adweithiau'n anghildroadwy. Ond mewn adwaith cildroadwy, mae'r cynhyrchion yn gallu adweithio i gynhyrchu'r adweithyddion gwreiddiol. Ar ecwilibriwm, dydy crynodiadau'r adweithyddion a'r cynhyrchion ddim yn newid. Rydyn ni'n defnyddio llawer o amonia mewn gwrteithiau, ac yn ei gynhyrchu gan ddefnyddio proses Haber.

Part ofCemegAdweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig

Amonia

Mae amonia, NH3, yn ddefnydd crai pwysig wrth gynhyrchu gwrteithiau. Mae rhywfaint o’r amonia yn cael ei drawsnewid yn asid nitrig sydd ei hun yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwrteithiau a ffrwydron. Mae amonia hefyd yn gynhwysyn defnyddiol mewn rhai hylifau glanhau.

Ffatri amonia yn y nos.
Image caption,
Ffatri cynhyrchu amonia

Mae amonia yn gyfrwng hanfodol i ddarparu nitrogen o’r aer i blanhigion i’w galluogi nhw i adeiladu protein. Dydy planhigion ddim yn gallu defnyddio nitrogen yn uniongyrchol o’r aer. Mae angen i blanhigion amsugno nitrogen, wedi’u hydoddi mewn dŵr, drwy eu gwreiddiau.

Heb wrteithiau synthetig, seiliedig ar amonia, fyddai’r byd ddim yn gallu tyfu digon o fwyd i fwydo ei boblogaeth.

Profion am amonia ac ïonau amoniwm

Mae amonia, NH3, yn nwy alcalïaidd ac felly mae’n troi papur litmws coch llaith yn las.

Prawf am nwy amonia: mae'n troi papur litmws coch llaith yn las.

Gallwn ni adnabod ïonau amoniwm (NH4+) – sydd mewn cyfansoddion amoniwm fel amoniwm clorid, amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad – drwy wresogi hydoddiant o’r ïonau gyda sodiwm hydrocsid. Mae’r adwaith hwn yn cynhyrchu nwy amonia, fel mae’r hafaliad ïonig yn ei ddangos.

NH4+(dyfr) + OH(dyfr) → NH3(n) + H2O(h)

Yna, gallwn ni brofi’r nwy amonia sy’n cael ei ryddhau fel sydd wedi’i ddisgrifio uchod.