Amodau cyfaddawd [Haen uwch yn unig]
Gan fod proses Haber yn adwaith cildroadwy, mae modd newid cynnyrch yr amonia drwy newid gwasgedd neu dymheredd yr adwaith.
- Mae cynyddu gwasgedd yr adwaith yn cynyddu cynnyrch yr amonia. Fodd bynnag, os aiff y gwasgedd yn rhy uchel, bydd angen cyfarpar drud iawn i gynnal yr adwaith yn ddiogel ynddo.
- Mae cynyddu tymheredd yr adwaith yn lleihau cynnyrch yr amonia yn yr adwaith. Mae hyn yn golygu y byddai tymheredd is yn rhoi cynnyrch mwy o amonia. Fodd bynnag, pe bai’r tymheredd yn rhy isel, byddai cyfradd yr adwaith mor araf nes y byddai’n cymryd gormod o amser i wneud yr amonia.
Wrth ddewis yr amodau ar gyfer proses Haber, mae’n bwysig ystyried yr holl ffactorau sy’n effeithio ar gynnyrch yr amonia ynghyd â chyfradd yr adwaith a chyfanswm cost cynhyrchu amonia. Rhaid i ti allu esbonio pam fod yr amodau canlynol yn cael eu dewis ar gyfer yr adwaith.
- Gwasgedd o 200 atmosffer – mae'n cael ei ddewis er mwyn rhoi cynnyrch gweddol a chynyddu cyfradd yr adwaith. Pe bai’r gwasgedd yn uwch na hyn, byddai’n gwneud y cyfarpar yn llawer drutach oherwydd byddai’n rhaid i’r cyfarpar fod yn llawer cryfach i ddal y gwasgedd uwch. Mae gwasgedd uwch hefyd yn cynyddu’r risg o ffrwydradau.
- Tymheredd o 450°C – mae'n cael ei ddewis er mwyn rhoi cynnyrch gweddol a chadw cyfradd yr adwaith yn uchel. Mae hyn, ynghyd â defnyddio catalydd haearn poeth, yn golygu bod cynnyrch da o amonia yn cael ei gynhyrchu’n gyson. Gan fod yr hydrogen a’r nitrogen yn cael eu hailgylchu, ychydig iawn o’r adweithyddion sy’n cael eu gwastraffu.
Yn y pen draw, bydd y catalydd haearn sy’n cael ei ddefnyddio i gynyddu cyfradd yr adwaith yn stopio gweithio’n effeithiol. Rydyn ni’n dweud bod y catalydd yn cael ei ‘wenwyno’ a bydd angen un newydd yn rheolaidd.