Hawlfraint TGCh
Mae hawlfraint yn rhoi hawliau i grewyr rhai mathau o gyfryngau i reoli sut maen nhw’n cael eu defnyddio a’u dosbarthu. Gall cyfraith hawlfraint fod yn berthnasol i gerddoriaeth, llyfrau, fideos a meddalwedd.
Deddf hawlfraint
Cyfyngiadau sy’n cael eu gorfodi drwy hawlfraint
Pan fyddi di’n prynu meddalwedd, er enghraifft, mae cyfraith hawlfraint yn dy wahardd rhag:
- rhoi copi i ffrind
- gwneud copi a’i werthu ymlaen
- defnyddio’r feddalwedd ar rhwydwaithGrŵp o gyfrifiaduron/dyfeisiau rhyng-gysylltiedig. (oni bai fod y trwyddedCytundeb cyfreithiol rhwng y cwmni sydd wedi cyhoeddi’r feddalwedd a’r defnyddiwr yn ymwneud â meysydd fel hawlfraint. yn caniatáu hynny)
- rhentu’r feddalwedd heb ganiatâd pwy bynnag sydd â’r hawlfraint
Atal lladrata meddalwedd
Mae cwmnïau meddalwedd yn cymryd llawer o gamau i atal lladrataDwyn eiddo rhywun yn anghyfreithlon ac mewn ffordd ddirgel. Yng nghyswllt meddalwedd, mae’n golygu gwneud copïau anghyfreithlon o ddeunydd sydd wedi’i recordio. meddalwedd:
- Rhaid cytuno ar gytundeb rhwng y cwmni sydd wedi datblygu’r feddalwedd a’r defnyddiwr cyn gosod y feddalwedd. Enw’r cytundeb hwn yw cytundeb trwyddedu ac mae’n ymdrin â hawlfraint.
- Wrth ddefnyddio rhai darnau o feddalwedd bydd angen rhoi rhif trwydded unigryw cyn y gwnaiff y cyfrifiadur barhau i osod y feddalwedd.
- Bydd rhai apiau neu rhaglenDilyniannau o gyfarwyddiadau i gyfrifiadur. ddim ond yn gweithio os yw’r (CDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio hyd at 700 MB o gerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae CDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i DVDs a disgiau Blu-ray. / DVDDisg crwn, plastig sy’n cael ei ddefnyddio i storio cerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae DVDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i CDs a disgiau Blu-ray.) yn y gyriant.
- Bydd rhai apiau neu raglenni ddim ond yn gweithio os yw darn arbennig o caledweddRhannau ffisegol system gyfrifiadurol, er enghraifft cerdyn graffeg, gyriant disg caled neu yriant CD. sy’n cael ei alw’n donglDarn bach o galedwedd sy’n cysylltu â chyfrifiadur, er enghraifft cof bach USB. wedi’i blygio i mewn i gefn y cyfrifiadur.
Y Ffederasiwn yn erbyn Lladrata Meddalwedd (FAST)
Sefydlwyd FAST yn 1984 gan y diwydiant meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. ac erbyn hyn mae’n cael ei gefnogi gan dros 1,200 o gwmnïau. Mae’n sefydliad dielw a’i nod yw atal lladrata meddalwedd. Mae ganddo bolisi o erlyn unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri cyfraith hawlfraintSet o hawliau sy’n atal pobl rhag copïo a dosbarthu darn o waith heb ganiatâd pwy bynnag sydd â’r hawlfraint..
Mae FAST hefyd yn addysgu’r cyhoedd ynghylch arferion da wrth ddefnyddio meddalwedd a’r gofynion cyfreithiol.