Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)Sut i atal camddefnyddio cyfrifiaduron

Cyfraith yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) sydd wedi’i chynllunio er mwyn diogelu data personol sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron neu mewn system ffeilio bapur wedi’i threfnu.

Part ofTGChMaterion cyfreithiol a moesegol

Sut i atal camddefnyddio cyfrifiaduron

Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron (1990)

Pasiwyd y ddeddf hon gan y senedd ac mae’n creu tair trosedd newydd:

  1. cael mynediad i ddeunydd cyfrifiadurol heb ganiatâd, er enghraifft edrych ar ffeiliau rhywun arall
  2. cael mynediad i ddeunydd cyfrifiadurol heb ganiatâd, gyda’r bwriad o gyflawni rhagor o droseddau, er enghraifft, i mewn i gyfrifiadur y banc er mwyn ceisio cynyddu’r swm sydd yn dy gyfrif
  3. newid cyfrifiadurol heb ganiatâd, er enghraifft ysgrifennu i ddinistrio data rhywun arall, neu newid swm yr arian sydd mewn cyfrif

Deddf hawlfraint

Mae hyn yn darparu amddiffyniad i berchnogion yr ac yn ymdrin â defnyddio cyfrifiaduron i gopïo gwaith ysgrifenedig, cerddorol neu ffilm. yw’r corff sy’n ceisio atal dwyn meddalwedd yn y diwydiant.

Mae deddfau fel y Ddeddf Hawlfraint wedi cael eu defnyddio mewn rhai achosion i geisio atal gwefannau neu unigolion sy’n storio deunydd hawlfraint, er enghraifft cerddoriaeth, ac yn eu dosbarthu’n anghyfreithlon. Mae llawer o bobl ar hyd a lled y byd yn cael gafael ar ddeunydd hawlfraint yn anghyfreithlon, ac mae’n broblem fawr iawn.

Cau ystafelloedd sgwrsio

Mae rhai wedi cael eu cau o ganlyniad i gael eu camddefnyddio, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae plant yn agored i niwed. Mae gan rai safleoedd sy’n helpu i atal camddefnydd. Mae cyngor ynglŷn â defnydd call yn bwysig; yn fwyaf arbennig, peidio byth â rhoi manylion cysylltu personol na threfnu cyfarfodydd heb fod yn ofalus iawn.

Cymedrolwr safle yn rheoli cyfathrebu ar-lein rhwng dilynwyr a sêr y byd roc.
Figure caption,
Cymedrolwr safle yn rheoli cyfathrebu ar-lein rhwng dilynwyr a sêr y byd roc

Lleihau ebyst sbam

Mae’n bosibl lleihau ebyst sbam:

  • drwy beidio ag ateb dienw
  • drwy osod hidlyddion ar gyfrifon ebost
  • drwy riportio sbamwyr i’r . Mae ISPs yn dechrau dod at ei gilydd i wahardd rhai sy’n camddefnyddio negeseuon ebost
  • drwy gael y llywodraeth i basio deddfau fydd yn rhoi cosbau trwm i sbamwyr parhaus

Gwneud copïau wrth gefn yn rheolaidd a sicrhau diogelwch

Nid yw gwneud rhywbeth yn anghyfreithlon, neu gyflwyno rheoliadau, yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae angen i ddefnyddwyr cyfrifiaduron cyfrifol gymryd camau rhesymol i gadw eu data’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn rheolaidd a sicrhau diogelwch digonol drwy gyfrineiriau.