Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)Mathau o ddata personol

Cyfraith yw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) sydd wedi’i chynllunio er mwyn diogelu data personol sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron neu mewn system ffeilio bapur wedi’i threfnu.

Part ofTGChMaterion cyfreithiol a moesegol

Mathau o ddata personol

Mae rhywfaint o’r a’r sy’n cael ei storio ar gyfrifiadur yn ddata a gwybodaeth bersonol, ac mae angen eu cadw’n gyfrinachol. Mae angen cadw gwybodaeth am gyflog, manylion banc a chofnodion meddygol pobl yn breifat a gwneud yn siŵr nad yw pawb yn gallu eu gweld. Mae mynediad heb ei awdurdodi yn digwydd pan mae rhywun nad oes ganddo hawl i weld y manylion hyn yn gallu cael mynediad atynt heb ganiatâd.

Dau fath o ddata personol

Enghreifftiau o ddata sensitif a phersonol megis manylion crefydd a manylion bancio.

Mae data personol yn ymwneud â phobl sy’n fyw heddiw. Gallai’r data gynnwys:

  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion meddygol neu fanylion bancio

Mae data personol sensitif hefyd yn ymwneud â phobl fyw, ond maen nhw’n cynnwys un neu ragor o’r manylion isod am :

  • tarddiad hiliol neu ethnig
  • barn wleidyddol
  • crefydd
  • aelodaeth o undeb llafur
  • iechyd
  • bywyd rhywiol
  • gweithgaredd troseddol

Mae llai o fesurau diogelu ar gyfer data personol nag ar gyfer data personol sensitif. Yn y rhan fwyaf o achosion rhaid gofyn yn benodol i unigolyn am ganiatâd i gadw data sensitif amdano.