Data cyfrinachol
Mae llawer o bobl yn pryderu ynglŷn â’r syniad bod sefydliadau’n storio manylion cyfrinachol, personol ar gyfrifiadur. Efallai y bydd dysgwr eisiau gwybod:
- Pa wybodaeth mae’r ysgol yn ei storio amdano?
- Pwy sy’n cael mynediad at yr wybodaeth hon, er enghraifft, pa aelodau o’r staff?
- A yw’r wybodaeth ar gael i ysgolion neu sefydliadau eraill?
- Pa fesurau diogelwch sydd wedi’u sefydlu er mwyn atal mynediad heb ei awdurdodi at wybodaeth?
- A allai’r wybodaeth sy’n cael ei storio gael ei defnyddio yn ei erbyn mewn unrhyw ffordd?
Y rhyngrwyd a throseddu
Mae technoleg newydd hefyd yn golygu troseddau newydd, ac o ganlyniad mae rhai llywodraethau’n sefydlu unedau arbennig i ymdrin â throseddau rhyngrwyd.
Un mater sy’n peri llawer o bryder yw twyll ar y rhyngrwyd. Er enghraifft, mae sgamiau gwe-rwydoYmdrech i gael gwybodaeth bersonol am rywun drwy dwyll, er enghraifft, anfon ebost yn gofyn am fanylion banc, gan honni bod yr ebost wedi’i anfon gan y banc., dwyn hunaniaethPan mae hunaniaeth unigolyn yn cael ei gymryd gan rywun arall er mwyn elwa, yn ariannol neu mewn ffordd arall. ac ymosodiadau atal gwasanaeth yn dechnegau cyffredin sy’n cael eu defnyddio gan droseddwyr heddiw.
Mae pryderon eraill yn ymwneud â:
- rhyng-gipio manylion cardiau credyd a thrafodion ar-lein
- hacioCael mynediad i gyfrifiadur heb ganiatâd. i mewn i ffeiliau personol preifat â bwriad troseddol
- gwefanTudalen we neu grŵp o dudalennau gwe sy’n cael eu lletya ar un gweinydd ac yn cael eu gweld mewn porwr gwe, sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan unigolyn, grŵp neu sefydliad. twyllodrus yn cymryd manylion cardiau credyd gan gwsmeriaid
- lledaenu firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. drwy’r rhyngrwyd
Diogelwch ar y rhyngrwyd
Mae nifer o gamau’n cael eu cymryd er mwyn gwneud i’r cyhoedd deimlo’n fwy diogel wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd:
- amgryptioMae ffeiliau sydd wedi’u hamgryptio wedi cael eu haddasu gan ddefnyddio cod cyfrinachol ac nid yw partïon sydd heb gael eu hawdurdodi yn gallu eu darllen.dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. sensitif, gan sicrhau nad oes modd eu darllen nes byddant yn cyrraedd eu cyrchfan ac yn cael eu dadgryptio
- cyfrineiriau a chyfyngiadau lefel mynediad
- muriau cadarn (diogelwch rhag hacwyr)
- meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.gwrthfirwsMae meddalwedd gwrthfirws yn sganio dyfeisiau storio o bob math am firysau (rhaglenni sy’n gallu achosi niwed i gyfrifiaduron). Os yw’r feddalwedd yn dod o hyd i firysau mae’n ceisio cael gwared arnynt.
- cosbau llym i droseddwyr dan y Deddf Camddefnyddio CyfrifiaduronYn diffinio ac yn troseddoli nifer o droseddau sy’n ymwneud â defnyddio cyfrifiadur, er enghraifft, mynediad heb ei awdurdodi i systemau cyfrifiadurol.