Camgymeriadau cyffredin gydag arddodiaid
Un camgymeriad cyffredin yw defnyddio'r arddodiad anghywir ar ôl berfenw. Gall hyn effeithio ar ystyr y frawddeg.
| Enghraifft | Enghraifft | Enghraifft | Enghraifft |
| Adrodd am/wrth | Credu yn/am | Gofyn i | Gweddïo ar/am/dros |
| Rhyfeddu at | Ysgrifennu at berson | Ysgrifennu i sefydliad/cwmni | Disgwyl am/i |
| Gweiddi ar/am | Siarad am | Amddiffyn rhag | Cyfarfod â |
| Anfon at/i | Anelu at | Gofyn i | Dysgu i/am |
| Dylanwadu ar | Hiraethu am | Synnu at | Dweud wrth |
| Atal rhag | Cytuno â | Ffarwelio â | Mynd at/i |
| Enghraifft | Adrodd am/wrth |
|---|---|
| Enghraifft | Credu yn/am |
| Enghraifft | Gofyn i |
| Enghraifft | Gweddïo ar/am/dros |
| Enghraifft | Rhyfeddu at |
|---|---|
| Enghraifft | Ysgrifennu at berson |
| Enghraifft | Ysgrifennu i sefydliad/cwmni |
| Enghraifft | Disgwyl am/i |
| Enghraifft | Gweiddi ar/am |
|---|---|
| Enghraifft | Siarad am |
| Enghraifft | Amddiffyn rhag |
| Enghraifft | Cyfarfod â |
| Enghraifft | Anfon at/i |
|---|---|
| Enghraifft | Anelu at |
| Enghraifft | Gofyn i |
| Enghraifft | Dysgu i/am |
| Enghraifft | Dylanwadu ar |
|---|---|
| Enghraifft | Hiraethu am |
| Enghraifft | Synnu at |
| Enghraifft | Dweud wrth |
| Enghraifft | Atal rhag |
|---|---|
| Enghraifft | Cytuno â |
| Enghraifft | Ffarwelio â |
| Enghraifft | Mynd at/i |
Ymarfer
Question
Edrycha ar y darn isod a noda'r camgymeriadau sy'n ymwneud â defnyddio arddodiaid ac ailysgrifenna'r darn yn gywir.
Ysgrifennais i Lois Jones eto ddoe i ofyn iddi ddod i siarad ar destun ymfflamychol ond pwysig, sef ‘Hawliau cyfartal i ferched' yn ein cyfarfod nesaf. Dw i wedi bod yn gweiddi at Lois i fynychu ein cyfarfodydd ers sbel a dw i wedi dweud iddi ceith hi dâl am ei hamser. Dywedais ati i anelu am ddeng munud o gyflwyniad ac yna i fod yn barod am gwestiynau. Byddwn yn ffarwelio gydag ambell aelod hefyd gan fod Huw Rhys yn ymfudo at Ganada. Dw i wedi gofyn wrth y tîm i roi cyfraniad ato.
Dw i am ysgrifennu at gwmni dylunio lleol nawr i gael ein siaradwr nesaf.
Ysgrifennais at Lois Jones eto ddoe i ofyn iddi ddod i siarad am destun ymfflamychol ond pwysig, sef ‘Hawliau cyfartal i ferched' yn ein cyfarfod nesaf. Dw i wedi bod yn erfyn ar Lois i fynychu ein cyfarfodydd ers sbel a dw i wedi dweud wrthi ceith hi dâl am ei hamser. Dywedais wrthi i anelu at ddeng munud o gyflwyniad ac yna i fod yn barod am gwestiynau. Byddwn yn ffarwelio gydag ambell aelod hefyd gan fod Huw Rhys yn ymfudo i Ganada. Dw i wedi gofyn i'r tîm i roi cyfraniad iddo.
Dw i am ysgrifennu i gwmni dylunio lleol nawr i gael ein siaradwr nesaf.